British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Tachwedd 2010, 15:02 GMT
Ymgynghoriad ar ysgol newydd

Arwydd Ysgol Treganna
Y gobaith yw y bydd gan Ysgol Treganna adeilad newydd erbyn 2013

Mae arweinwyr Cyngor Sir Caerdydd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i godi adeilad newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Treganna.

Yn ôl y cynlluniau a gafodd eu trafod ddydd Iau, bydd Ysgol Treganna yn symud i'r safle newydd ar Ffordd Sanatoriwm, ac felly hefyd ysgol Gymraeg Tan yr Eos.

Cafodd Ysgol Tan yr Eos ei hagor yn 2007 fel mesur dros dro i geisio ymateb i'r galw am addysg Gymraeg.

Dywed swyddogion bod galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y ddinas yn rhoi ysgolion fel Ysgol Treganna dan bwysau.

Dywedodd yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros addysg yn y cyngor, Freda Salway: "Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn gyfle i bobl yn y gymuned leol i gael mwy o wybodaeth am y cynnig a dweud eu dweud wrth y cyngor".

£9.78 miliwn

Amcangyfrifir y bydd y gost o godi'r ysgol newydd erbyn 2013 tua £9.78 miliwn.

Dywed y cyngor eu bod yn gallu cyfrannu ychydig dros £3 miliwn.

Ond mae rhai rhieni am gael sicrwydd y bydd digon o arian ar gyfer yr adeilad newydd.

Maen nhw'n pryderu na fydd gan Lywodraeth y Cynulliad y modd i ysgwyddo gweddill y baich yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Mae grŵp ymgyrchu Sardins wedi ysgrifennu llythyr agored at arweinydd y cyngor, Rodney Berman, i alw arno i sicrhau bod ariannu'r adeilad yn flaenoriaeth.

Tan yn ddiweddar roedd ansicrwydd am ddyfodol union leoliad newydd Ysgol Treganna wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wrthod cynlluniau gwreiddiol y cyngor i gau ysgol cyfrwng Saesneg gerllaw a symud disgyblion Treganna yno.



HEFYD
Addysg Gymraeg: Datrys y ffrae?
21 Medi 10 |  Newyddion
'Angen i Carwyn Jones ailfeddwl'
06 Awst 10 |  Newyddion
Cyngor yn 'llusgo traed'
04 Meh 10 |  Newyddion
Gwers fel protest yn Y Senedd
29 Meh 10 |  Newyddion
Plaid yn galw am esboniad llawn
30 Mai 10 |  Newyddion
Na i ehangu addysg Gymraeg
27 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific