British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2010, 11:49 GMT
Cam yn ôl i barth i Gymru

Logo ymgyrch dot.cym
Dyma oedd logo ymgyrch dot.cym

Mae ymgyrchwyr dros gael parth penodol i Gymru ar y we wedi cael ergyd ar ôl i'r rheolau ynglŷn ag enwau derbyniol ar gyfer parthau lefel uchaf newydd newid.

Ers blynyddoedd bu ymgyrch i gael yr hawl i ddefnyddio'r llythrennau .cym ar wefannau.

Ond nawr dydy'r llythrennau 'CYM' ddim ar gael ar gyfer Cymru i'w defnyddio ar y rhyngrwyd gan fod 'CYM' wedi ei chadw ar gyfer Ynysoedd Cayman, er bod ganddynt eisoes .ky.

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Siôn Jobbins: "Hoffem glywed barn pobol am barthau eraill i gynrychioli'n cymuned.

"Beth yw'ch barn chi ar .cymru, .cŵl (Cymru Wales) a .wales?

"Gallwch gysylltu â ni ar dotcym@dotcym.org".

ICANN yw'r corff sy'n rheoli enwau ar y rhyngrwyd.

Mae'r ymgyrchwyr yn ceisio am barth lefel uchaf fydd yn cael ei hadnabod fel un sy'n cynrychioli'r gymuned Gymreig ac ar gael i'w ddefnyddio gan y gymuned Gymraeg a Chymreig yn fyd-eang, boed yn unigolion, clybiau a chymdeithasau, busnesau a chyrff llywodraethol.



HEFYD
Statws ar y we: 'Cam ymlaen'
05 Meh 08 |  Newyddion
Bwrdd Iaith yn cefnogi dotCYM
03 Rhag 06 |  Newyddion
Statws ar y we: 'Gobeithiol'
27 Medi 06 |  Newyddion
Ymgyrch: Statws i Gymru ar y we
25 Medi 06 |  Newyddion
Catalonia: Hawl i arfer enw gwefan
24 Ion 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific