Bu mwy o ddefnydd o gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd hefyd.
|
Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio llyfrgelloedd Cymru. Mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifiaeth yn dangos fod mwy o bobl nid yn unig yn benthyca llyfrau, ond hefyd yn defnyddio adnoddau cyfrifiadurol llyfrgelloedd. Mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi croesawu'r ffigyrau gan ddweud fod llyfrgelloedd yn "chwarae rôl bwysig....a chynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'w cymunedau." Yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Mercher: • Cododd nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd o 13,960,000 yn 2008/09 i 14,717,000 yn 2009/10 - i fyny 5.4%; • Bu cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi benthyca o'r llyfrgelloedd, o 645,000 i 681,000 - i fyny 5.6%; • Amcangyfrifir i'r cyfrifiaduron gael eu defnyddio gan y cyhoedd am gyfanswm o 2,098,240 awr, a hynny am ddim; • Mae ymweliadau â llyfrgelloedd yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â gweddill y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru bu 5.4% o gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bu 8.4% o gynnydd yng Ngogledd Iwerddon, ond mae'r nifer yn Lloegr i lawr 1.6% a'r nifer yn yr Alban i lawr 1.4%. 'Gwasanaeth amhrisiadwy'
 |
Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod llyfrgelloedd yng Nghymru yn dal i chwarae rôl bwysig
Alun Ffred Jones AC Gweinidog dros Dreftadaeth
|
Cafodd Llyfrgell y Llyfni ym Maesteg grant gwerth £100,000 oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad o dan ei rhaglen Llyfrgelloedd am Oes. Yn y blynyddoedd diweddar, mae oddeutu 68 o lyfrgelloedd cyhoeddus wedi cael grant i foderneiddio neu ddatblygu cyfleusterau newydd. Rhoddwyd y grantiau o dan raglen strategol Llyfrgelloedd am Oes Llywodraeth y Cynulliad. Yn ystod ymweliad â Llyfrgell y Llynfi ym Maesteg, dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones: "Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod llyfrgelloedd yng Nghymru yn dal i chwarae rôl bwysig a hefyd yn dangos ffrwyth y buddsoddiad a wnaed gan awdurdodau lleol i sicrhau bod llyfrgelloedd yn parhau i gynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'w cymunedau. 'Modern a deniadol' "Dw i'n falch bod grwpiau cymunedol a gwasanaethau eraill yn manteisio ar y cyfleusterau modern a deniadol sydd ar gael yn y Llyfrgell. "Mae haneswyr lleol, dysgwyr Cymraeg, a phobl sy'n chwilio am swyddi ymhlith y grwpiau sy'n manteisio ar yr offer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu newydd." Rhaglen dair blynedd (2008 - 2011) gwerth £10.5m yw Llyfrgelloedd am Oes. Ei nod yw denu mwy o bobl i ddefnyddio llyfrgelloedd trwy wella'u cyfleusterau a'u gwasanaethau mewn ledled Cymru.
|