British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010, 17:34 GMT
Toriadau gwariant: "Her fwya' Cymru"

Carwyn Jones
Yn ôl Carwyn Jones, mae'r toriadau yn golygu'r her fwya' i Gymru ers datganoli

Mewn araith ddydd Mawrth, mynegodd Prif Weinidog Cymru ei "siom a phenderfyniad" wrth ymateb i adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan.

Yn ôl Carwyn Jones, mae'n "siomedig ynglŷn â'r ffordd y cafodd Cymru ei thrin" ac mae'n teimlo fod y llywodraeth yn "amharod i adnabod ac ymateb i faterion penodol yn ymwneud â Chymru."

Ond ychwanegodd ei fod yn "benderfynol o sefyll dros bobl Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus" yn wyneb y toriadau.

Rhybuddiodd Mr Jones fod Cymru yn wynebu ei "her fwya' ers datganoli", a bod llywodraeth Prydain yn "mynd yn rhy bell yn rhy sydyn gyda thoriadau mewn gwariant".

Mae Mr Jones yn poeni y bydd y toriadau yn tanseilio gobeithion Cymru o adferiad economaidd, ac yn tanseilio'r buddsoddiad mewn ysgolion, ysbytai ac isadeiledd fu dros y deng mlynedd diwetha'.

Yn ei araith ddydd Mawrth, dywedodd Carwyn Jones: "Dyma'r toriadau mwya' yn ein cyllidebau ers cyn cof. Mewn termau real, mae'n cyfateb i doriad o £1.8 biliwn dros y pedair blynedd nesa' - gydag £860 miliwn yn dod o'n cyllideb ni'r flwyddyn nesa'. Mae hon yn her anferth.

'Difrodus a gwastraffus'

"Mae gennym ffordd arbennig o ddelio â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, model cydweithredol y mae Lloegr yn ei chael yn anodd efelychu.

"Ond bydd y toriadau yn rhoi gwir bwysau ar ein gallu i gwrdd ag anghenion y boblogaeth gyda'r un safonau uchel o wasanaeth a gofal sydd wedi eu datblygu dros y deng mlynedd diwetha'."

Gallai'r effaith ddynol a chymdeithasol fod yn ddifrodus a gwastraffus: gallai'r gwir gost fod gyda ni am genedlaethau
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Mynegodd Mr Jones ei bryder y bydd y toriadau budd-dal ehangach yn taro'n galetach yng Nghymru oherwydd y nifer hanesyddol uchel o bobl dlawd a bregus, ac y byddai teuluoedd ifanc yn diodde' yn enwedig.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, byddai teuluoedd incwm isel sydd â phlant yn colli tua 5% o'u hincwm ar ôl treth.

"Gallai'r effaith ddynol a chymdeithasol fod yn ddifrodus a gwastraffus: gallai'r gwir gost fod gyda ni am genedlaethau."

Disgrifiodd y dybiaeth y gallai'r sector preifat gynnig swyddi i'r rhai fyddai'n colli eu gwaith yn y sector cyhoeddus fel un "beryglus", gan fod "buddsoddiad cyhoeddus yn chwarae rôl fwy" yn economi Cymru nac yn Lloegr, a bod y sector busnes yn "llawer mwy bregus".

Dywedodd y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd ei chyfrifoldeb o ddifri', ac yn gwneud ei gorau o dan yr amgylchiadau a gyda'r arian ar gael.

'Anochel'

Mae'r rhan fwya' o bobl yn cydnabod fod y toriadau yn anochel oherwydd y sefyllfa economaidd hunllefus a etifeddwyd gan Lafur
Llefarydd ar ran Swyddfa Cymru

Ychwanegodd mai blaenoriaethau clir ei lywodraeth oedd y Gwasanaeth Iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae'r rhan fwya' o bobl yn cydnabod fod y toriadau yn anochel oherwydd y sefyllfa economaidd hunllefus a etifeddwyd gan Lafur.

"Dyna pam fod y llywodraeth glymblaid, trwy'r adolygiad gwariant, yn cymryd camau pendant i leihau'r diffyg ariannol mewn modd sy'n deg a sy'n rhoi'r economi mewn sefyllfa gadarn ar gyfer y tymor hir."

Yn y cyfamser, mae arolwg barn newydd yn awgrymu fod 57% o bobl yng Nghymru yn credu fod y modd y mae toriadau yn cael eu cyflwyno o fewn y sector cyhoeddus yn 'anheg'.

Mae hefyd yn awgrymu fod bron i hanner yn credu fod Cymru yn wynebu toriadau ariannol mwy na gweddill y Deyrnas Unedig.

Arolwg barn

Ond yn ôl yr arolwg gan YouGov, ar ran ymchwilwyr ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, roedd 53% o bobl yn credu nad oedd modd osgoi'r toriadau.

Roedd oddeutu 34% yn credu mai'r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan oedd benna' ar fai am y toriadau, tra 'roedd 32% yn beio'r llywodraeth Lafur flaenorol.

Rhyw 3% oedd yn gweld bai ar y glymblaid Llafur a Phlaid yn y Cynulliad, tra roedd 19% yn beio pob un o'r pleidiau.

Yn ôl cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Richard Wyn Jones, roedd canlyniadau'r arolwg yn "anorfod, ond mae'r rhan fwya' o etholwyr Cymru yn gweld y toriadau mewn gwariant cyhoeddus fel rhai fydd yn niweidiol i'r economi ac yn anheg."

Roedd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth, o'r farn fod yr arolwg yn dangos nad oedd pobl Cymru yn meddwl mai'r llywodraeth Lafur flaenorol oedd yn llwyr ar fai am y toriadau.

Cafodd yr arolwg barn ei gynnal gan YouGov ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, rhwng Hydref 27 a 29. Fe holwyd 1,206 o bobl.



HEFYD
Carwyn: Beirniadu cyhoeddiad dryslyd
14 Hyd 10 |  Newyddion
O le daw'r £82 biliwn o doriadau?
13 Hyd 10 |  Newyddion
Arweinwyr yn erbyn toriadau
07 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific