British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2010, 06:56 GMT
'Dau beilot heb weld ei gilydd'

Katie-Jo Davies a Nikkita Walters
Roedd Katie-Jo Davies a Nikkita Walters yn ddisgyblion yn Ysgol Tonyrefail

Ddaru dau beilot, fu mewn gwrthdrawiad awyr a laddodd bedwar person, ddim gweld ei gilydd mewn pryd, yn ôl adroddiad i'r ddamwain.

Dywedodd yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) mewn adroddiad a gyhoeddwyd fore Mercher fod yr awyrennau hyfforddi Grob yn anodd eu gweld, ac y gallai strwythur canopi'r awyren fod wedi ychwanegu at y broblem.

Cafodd dwy gyfnither, Katie-Jo Davies, 14 a Nikkita Walters, 13 eu lladd yn y gwrthdrawiad uwchben Porthcawl ym mis Chwefror 2009.

Bu farw'r ddau beilot o'r Awyrlu - Hylton Price, 63 ac Andrew Marsh, 24 - yn ogystal.

Dim rheolaeth

Roedd y ddwy ferch o Gilfach Goch yn gadetiaid gyda'r Corfflu Hyfforddi Awyr (ATC) ac yn ddisgyblion yn Ysgol Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Tarodd y ddwy awyren yn erbyn ei gilydd 2,900 troedfedd uwchben y ddaear, gydag aden dde un yn taro yn erbyn corff y llall, gan olygu nad oedd modd rheoli'r un o'r ddwy.

Dywedodd adroddiad yr AAIB: "Mae'n debygol nad yr oedd yr un o'r ddau beilot wedi gweld yr awyren arall tan eiliadau cyn y gwrthdrawiad, os o gwbl.

"Doedd yr un o'r ddau wedi gweld y llall mewn pryd i'w osgoi.

"Byddai maint yr awyren hyfforddi ynghyd â'r lliw gwyn wedi ei gwneud hi'n anodd ei gweld o dan amodau'r diwrnod hwnnw."

System rhybuddio

Ychwanegodd yr adroddiad fod Mr Price, o Benybont-ar-Ogwr, a Mr Marsh, o Benarth, yn beilotiaid hyfforddi profiadol.

Doedd dim argymhellion diogelwch yn yr adroddiad, gan fod yr AAIB eisoes wedi gwneud nifer o argymhellion i ymchwiliad y Weinyddiaeth Amddiffyn i'r digwyddiad.

Cyhoeddwyd adroddiad yr ymchwiliad hwnnw ym mis Ionawr eleni.

Un o'r argymhellion a wnaed bryd hynny oedd y dylid gosod systemau rhybuddio am wrthdrawiad ar awyrennau hyfforddi.



HEFYD
Argymhellion wedi damwain awyr
07 Ion 10 |  Newyddion
Angladd cadet awyr
05 Maw 09 |  Newyddion
Angladdau peilot a chadet awyr
03 Maw 09 |  Newyddion
Teyrnged yr awyrlu i beilot
26 Chwef 09 |  Newyddion
Munud union oedd rhwng dwy awyren
19 Chwef 09 |  Newyddion
Damwain: Enwi'r meirw
12 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific