British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010, 15:04 GMT
Pryderon undeb am swyddi DVLA

Canolfan y DVLA yn Abertawe
Mae rhan fwyaf o staff y DVLA yn gweithio yn y pencadlys yn Abertawe

Mae'n bosib y gallai hyd at 1,500 o weithwyr mewn swyddfeydd y DVLA ledled Prydain gael eu diswyddo, yn ôl undebau.

Mae undeb y PCS yn honni fod hyd at 320 o swyddi dan fygythiad yng Nghymru.

Yn ôl yr undeb, maen nhw wedi gweld dogfennau cyfrinachol yn amlinellu cynlluniau'r llywodraeth i gau 49 o swyddfeydd rhanbarthol, gan gynnwys tair yng Nghymru, a chanolbwyntio gwasanaethau yn Abertawe.

Mae rhyw 5,000 o bobl yn gweithio ym mhencadlys y DVLA yn Nhreforys, Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ond bod yn rhaid iddyn nhw wneud y defnydd gorau o'u "hadnoddau a'u harbenigedd."

Yn ôl yr undeb, byddai cynlluniau i gau y rhan fwya' o swyddfeydd lleol y DVLA yn peryglu 269 o swyddi ym Mro Abertawe, 38 yng Nghaerdydd ac 13 ym Mangor.

Mae swyddfa Bro Abertawe ar wahân i bencadlys y DVLA, dair milltir i ffwrdd yn y ddinas, ac mae'r PCS yn dweud y gallai ad-drefnu olygu symud rhai swyddi yno.

'Defnydd gorau o adnoddau'

Mae'r undeb yn galw am drafodaethau gyda gweinidogion trafnidiaeth ac wedi addo brwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau i gau, gan rybuddio y gallai unrhyw ddiswyddiadau gorfodol arwain at weithredu diwydiannol.

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol PCS, Mark Serwotka: "Mae'r staff wedi profi dro ar ôl tro eu bod yn hynod effeithlon, ond mae'r llywodraeth nawr yn bwriadu cael gwared â 1,500 o weithwyr medrus."

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA: "Fel gyda phob sefydliad sector cyhoeddus, mae'n rhaid i'r DVLA sicrhau eu bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac arbenigedd er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth da i'n cwsmeriaid.

"Rydym ni wrthi'n ystyried sut y gellir cynnig gwasanaethau sydd ar gael nawr yn swyddfeydd rhanbarthol y DVLA, gan sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd mwya' effeithlon a chost-effeithiol."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific