British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010, 13:11 GMT
Llofruddiaeth: ApÍl o'r newydd

Rebecca Aylward
Cafodd corff Rebecca Aylward ei ddarganfod mewn coedwig

Mae Heddlu De Cymru, sy'n ymchwilio i lofruddiaeth merch 15 oed, wedi gwneud apêl o'r newydd am wybodaeth ynglŷn â'i symudiadau cyn ei marwolaeth.

Cafodd corff Rebecca Aylward ei ddarganfod mewn coedwig ger pentref Abercynffig tua 9am fore Sul, Hydref 24.

Cafodd llanc 16 oed ei arestio yn ddiweddarach, a'i gyhuddo o lofruddio'r ferch o Faesteg.

Dywedodd ynadon Pen-y-bont ar Ogwr y bydd rhaid i'r bachgen aros mewn uned ddiogel o dan ofal yr awdurdod lleol tan y bydd yn ymddangos o flaen y llys eto ar Dachwedd 3.

Mae ditectifs nawr yn ceisio gweithio allan lle y buodd Rebecca ar y diwrnod cyn ei marwolaeth.

Cafodd ei gweld ddiwethaf yn ardal Sarn am 12.30pm ddydd Sadwrn, Hydref 23, pan wnaeth aelodau o'r teulu ei danfon i ymweld â ffrind.

Dau ddyn

Yn ddiweddarach y noson honno, cysylltodd ei mam gyda'r heddlu i ddweud nad oedd ei merch wedi dychwelyd adref.

Mae plismyn nawr yn awyddus i siarad ag unrhyw un allai fod wedi gweld Rebecca yn ardal Stryd yr Eglwys yn Abercynffig tua 1pm ar ddydd Sadwrn, Hydref 23.

Maen nhw'n awyddus yn benodol i siarad â dau ddyn, a welwyd yn cerdded gyda chi tuag at gyfeiriad Ffordd Pen-y-bont tua 1pm, cyn cerdded yn ôl tua 1.20pm.

'Da ni eisiau pwysleisio nad ydy'r dynion hyn yn cael eu hamau o unrhyw drosedd, ond gallan nhw fod â gwybodaeth am symudiadau Rebecca
Ditectif Uwch-arolygydd Paul Burke, Heddlu'r De

Roedd un o'r dynion yn gwisgo siwmper lliw olau â chwfl.

Maen nhw hefyd eisiau siarad gyda dyn a welwyd yn dod allan o gar ar Stryd yr Eglwys tua 1pm.

Roedd o'n gwisgo crys coch, ac mae'n debyg mai Citroën Saxo neu gar tebyg oedd y cerbyd.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Burke o Heddlu'r De: "'Da ni eisiau pwysleisio nad ydy'r dynion hyn yn cael eu hamau o unrhyw drosedd, ond gallan nhw fod â gwybodaeth am symudiadau Rebecca ar y dydd Sadwrn cyn ei marwolaeth.

"Os 'da chi'n credu mai chi yw un o'r dynion hyn, neu eich bod yn yr ardal dan sylw tua 1pm ar y dydd Sadwrn, 'da ni'n eich hannog i gysylltu â ni."

Gellir cysylltu â'r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 01656 679585, neu gyda Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.



HEFYD
Llofruddiaeth: Dim mechnÔaeth
28 Hyd 10 |  Newyddion
Cadw bachgen 16 oed yn y ddalfa
27 Hyd 10 |  Newyddion
Mwy o amser i holi dau fachgen
26 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific