British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010, 07:23 GMT
Ailgylchu: Cynghorau yn poeni

Blwch Ailgylchu
Gallai'r targed ailgylchu godi o 50% i 70%

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio y gallai mesur gwastraff newydd gostio 'miliynau' i gynghorau lleol.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn trafod y mesur yn derfynol ddydd Mawrth.

Byddai'r mesur yn rhoi'r grym i Lywodraeth y Cynulliad gynyddu canran y sbwriel sy'n cael ei ailgylchu i 70%, a dirwyo awdurdodau lleol na fyddai'n cwrdd â'r targed.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddai'r gost o ddarparu gwasanaethau gwastraff lleol yn cynyddu £30 miliwn y flwyddyn.

'Cwbl anfforddiadwy'

O dan reolau Ewropeaidd, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ailgylchu 50% o'u sbwriel ar hyn o bryd.

Ar gyfartaledd 'da ni'n ailgylchu oddeutu 40%, sy'n welliant mawr ar y 7% oedd yn cael ei ailgylchu yn 2000/01
Cynghorydd Aled Roberts

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn annog y llywodraeth i wrthod y mesur newydd ar y sail ei fod yn 'gwbl anfforddiadwy o dan yr amgylchiadau presennol'.

Dywedodd llefarydd y gymdeithas ar yr amgylchedd, y Cynghorydd Aled Roberts: "Mae awdurdodau lleol yn awyddus i gynyddu faint o sbwriel maen nhw'n ei ailgylchu - ond cwtogi ar faint o sbwriel sy'n cael ei gynhyrchu yn y lle cynta' ddylai fod yn flaenoriaeth.

'Problemau difrifol'

"Ar gyfartaledd 'da ni'n ailgylchu oddeutu 40%, sy'n welliant mawr ar y 7% oedd yn cael ei ailgylchu yn 2000/01.

"Ond byddai'r gost o gyrraedd targed gorfodol o 70% yn achosi problemau difrifol i awdurdodau lleol, a byddai 'na gymhlethdod wedyn o wynebu dirwy am beidio â chwrdd â'r targedau.

Ychwanegodd Mr Roberts bod yn rhaid cydbwyso cyflawni targedau ailgylchu yn erbyn talu am athrawon, ac am ofal cymdeithasol i bobl fregus mewn cymdeithas, a "na ddylai'r Cynulliad fod yn defnyddio ei phwerau deddfu i orfodi targedau na ellir eu hariannu, neu i roi dirwyon i awdurdodau lleol sy'n methu cwrdd â thargedau a dim bai arnyn nhw."



HEFYD
Cyrraedd targedau tirlenwi
01 Medi 10 |  Newyddion
10 cyngor yn methu targedau
10 Awst 10 |  Newyddion
Ailgylchu: 'Ystadegau camarweiniol'
01 Chwef 10 |  Newyddion
Tirlenwi: Cyrraedd targedau
01 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific