Bydd siopwyr yng Nghymru yn talu 5 ceiniog yr un am fagiau plastig o fis Hydref 2011. Daeth y newyddion wrth i'r cyfundrefnau angenrheidiol gael eu gosod yn y Cynulliad sy'n caniatau i'r tâl am fagiau yng Nghymru ddod yn ddeddf. Mae'r rheolau yn wahanol i'r cynnig gafodd ei grybwyll yn wreiddiol, sef tâl o 7 geiniog y bag i ddechrau y gwanwyn nesa. Roedd Llywodraeth Y Cynulliad wedi ymgynghori ar fanylion y newid dros yr haf, ac o ganlyniad i ymateb busnesau, sefydliadau ac unigolion yng Nghymru a thu hwnt mae rhai agweddau o'r cynllun wedi newid. 350 miliwn Dywedodd Gweinidog Yr Amgylchedd, Jane Davidson: "Rwyn falch ein bod gam yn nes at gyflwyno tâl am fagiau plastig yng Nghymru. "Trwy Gymru y llynedd yn unig, fe aethon ni a tua 350 miliwn o fagiau adre o'r prif archfarchnadoedd yn unig - tua 273 bag i bob cartref - a dyw hynny ddim yn cynnwys bagiau o siopau stryd fawr a siopau llai eraill. "Mae mwyafrif y bagiau naill ai'n llenwi ein cypyrddau, yn sbwriel ar ein strydoedd neu ar safleoedd tirlenwi lle maen nhw'n rhyddhau nwyon ty gwydr sy'n niweidiol i'r amgylchedd. "Bwriad y tâl yw lleihau'r defnydd o fagiau plastig ac annog pawb i newid rhai o'r ymarferion gwastraffus yr ydym wedi eu datblygu. Bydd yn effeithio ar bawb yng Nghymru, felly mae'n bwysig cael y manylion yn gywir. 'Dim rhaid talu'
"O ganlyniad, y bwriad nawr yr cyflwyno tâl o 5c y bag - swm dwi'n ffyddiog fydd yn creu'r newid angenrheidiol heb osod baich ariannol diangen ar y siopwr. "Bydd y taliad yn dod i rym ar Hydref 1, 2011, sydd yn hwyrach na'r dyddiad gwreiddiol. Mae hyn er mwyn ateb anghenion busnesau, gan alluogi cyflwyniad llyfn i'r rheol gan y bydd mwy o amser i fanwerthwyr baratoi ar gyfer y newid. "Mae'n bwysig cofio nad oes rhaid i neb dalu - gall pobl osgoi talu drwy gofio mynd a bag gyda nhw i fynd i siopa." Bydd Mesur Gwastraff Cymru yn cael eu trafod gan y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth. Gwrthwynebiad Mae Consortiwm Manwerthwyr Prydain, fodd bynnag, yn dal i wrthwynebu taliad o gwbl, ac yn ansicr os ydi lleihau'r taliad yn gam effeithiol. Dywedodd Bob Gordon, pennaeth amgylchedd y Consortiwm: "Fedrwch chi ddim newid ymddygiad siopwyr drwy ddeddfu ar daliadau. "Fel yr ydym wedi dweud o'r dechrau, yr allwedd i leihau effaith amgylcheddol bagiau plastig yw trwy addysgu a pherswadio yn hytrach na chosb ariannol. "Eisoes mae manwerthwyr Cymru wedi llwyddo i leihau'r defnydd o fagiau plastig o 50% ers 2006 drwy annog cwsmeriaid i ail-ddefnyddio'u bagiau. "Rydym yn hyderus y byddai hynny'n parhau heb gyflwyno tâl gorfodol am fag plastig." Cytundeb Ond roedd y Ceidwadwyr yn y Senedd yn croesawu'r newid. Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Amgylchedd yng Nghymru, Angela Burns AC: "Rydym yn croesawu'r cyfraniad y bydd yr argymhellion yma'n eu gwneud i amgylchedd naturiol Cymru. "Mae'r taliad o 5c yn falans derbyniol rhwng anogaeth a chosb, ac fe fydd yn symbyliad i newid ymddygiad. "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn croesawu'r newid i gyflwyno'r rheol yn Hydref 2011, gan roi cyfle i fusnesau bach baratoi ar gyfer y newid."
|