British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Tachwedd 2010, 12:51 GMT
Cyn-archwilydd yn pledio'n euog

Jeremy Colman
Ymddiswyddodd Jeremy Colman ym mis Chwefror

Mae cyn Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi pledio'n euog i 15 cyhuddiad o wneud, ac o fod â delweddau o blant yn cael eu camdrin yn rhywiol yn ei feddiant.

Roedd 50 o'r delweddau yn dangos oedolion yn cael rhyw gyda phlant.

Ymddiswyddodd Jeremy Colman, 61, o'i waith fel Archwilydd Cyffredinol ym mis Chwefror eleni, er na wnaeth roi rheswm am wneud ar y pryd.

Mae'r swydd yn talu cyflog o £170,000 y flwyddyn.

Ond o fewn pum niwrnod i adael, cafodd ei arestio ar amheuaeth o fod â lluniau anweddus ar ei liniadur.

Mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Mehefin, roedd Mr Colman wedi gwadu cyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud â'r lluniau anweddus ac o beidio datgelu gwybodaeth i'r heddlu.

Clywodd Llys Y Goron Caerdydd ddydd Llun y bydd anwr yn wynebu dedfryd o garchar.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan i hynny ddigwydd.

Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) sy'n gyfrifol am sicrhau bod biliynau o bunnau o arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario'n gymwys bob blwyddyn.

Dywedodd llefarydd: "Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i Swyddfa Archwilio Cymru.

"Hoffwn ddiolch i Heddlu'r De am eu cymorth, a hoffwn ddiolch am y gefnogaeth rydym wedi ei gael gan gydweithwyr yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat.

"Oherwydd gwaith caled y staff a'r Archwilydd Cyffredinol newydd rydym wedi gallu symud ymlaen.

"Ein blaenoriaeth yw rhoi gwasanaeth archwilio o'r radd flaenaf i bobl Cymru."



HEFYD
Cynbennaeth yn pledio'n ddieuog
09 Meh 10 |  Newyddion
Cynbennaeth yn y llys
17 Maw 10 |  Newyddion
Cyhuddo'r cyn-archwilydd cyffredinol
03 Maw 10 |  Newyddion
Gliniadur: Arestio cyn-archwilydd
08 Chwef 10 |  Newyddion
'Deunydd anaddas': Heddlu'n ymchwilio
04 Chwef 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific