British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Tachwedd 2010, 07:59 GMT
Gwobrwyo tri am eu cyfraniad i fyd addysg

Cafodd Llew Davies ei enwebu gan un o'i ddisgyblion

Mae athro o Gymru wedi ei goroni'n Athro'r Flwyddyn drwy Brydain.

Roedd Llew Davies o Ysgol Cae Top Bangor yn un o dri o Gymru wnaeth ennill gwobrau byd addysg mewn seremoni yn Llundain.

Cafodd Philip Capper o Ysgol Bryn Elian y brif wobr am Lywodraethwr y Flwyddyn a Peter Jones o Ysgol Gyfun Cefn Saeson, Castell-nedd wobr am gyflawniad oes.

Cafodd Llew Davies ei ddisgrifio fel un o'r athrawon hynny mae disgyblion yn eu cofio am weddill eu hoes.

Mae ei wersi'n antur fawr, ac mae ei ddisgyblion ar dân i wybod beth fydd yn digwydd nesaf.

"Mae'n athro digri, neis iawn, sy' bob amser yn gwneud i ni chwerthin," meddai Scott Davies, y disgybl a'i enwebodd.

Mae'n athro ymgynghorol gwyddoniaeth, yn enwog am ei arbrofion cyffrous a gwelodd beirniaid y DU dystiolaeth o wers ar losgfynyddoedd a ddiweddodd gan adael staen coch ar y nenfwd.

Roeddem yn teimlo ein bod ym mhresenoldeb athro proffesiynol gwirioneddol ysbrydoledig
Y beirniaid am Llew Davies

Cafodd ei fagu ar fferm odro ar Ynys Môn.

Dywedodd y beirniaid: "Roeddem yn teimlo ein bod ym mhresenoldeb athro proffesiynol gwirioneddol ysbrydoledig, effeithiol a thalentog.

"Beth bynnag fyddwch chi'n ei alw, y ffactor X, y waw ffactor, y sbarc - mae o gan Llew!"

"Rydym wedi dod ymhell mewn 12 mlynedd ac yn falch bod enwebiadau 2010 wedi cyrraedd 9,224, sy'n record newydd," meddai Caroline Evans, prif weithredwraig y Gwobrau Athrawon.

"Fel o'r blaen, mae'r enillwyr newydd yn llysgenhadon gwych dros y proffesiwn."

Argraff

Morwr wrth ei alwedigaeth yw Mr Capper ac wedi dechrau fel rhiant lywodraethwr mae wedi bod yn gadeirydd y corff yn Ysgol Bryn Elian ym Mae Colwyn ers 10 mlynedd.

Cafodd ei enwebu gan y cyn-bennaeth ac mae cydweithwyr i Mr Capper wedi ei ddisgrifio fel "gwas rhagorol".

Fe wnaeth wahoddodd y prif fachgen a'r brif ferch i eistedd ar y corff llywodraethol ac i roi llais i'r myfyrwyr ar y corff.

Cafodd Peter Jones, 52 oed, wobr am gyflawniad oes.

Mae o bellach wedi ymddeol.

Dywedodd y beirniaid ei fod yn ddyn y mae plant yn ei edmygu, hoffi ac ymddiried ynddo.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific