Cafodd tri oedolyn a phlentyn 11 oed eu hachub oddi ar Grib Goch
|
Cafodd dau dîm achub eu galw i achub cerddwyr yn Eryri dros y penwythnos. Llwyddodd Tîm Achub Mynydd Llanberis i arwain tri oedolyn a phlentyn 11 oed oedd wedi eu caethiwo gan eira i ddiogelwch. Roedd gan y pedwar offer priodol ond roedd y tywydd ar Grib Goch yn drech na nhw. Llwyddodd y tîm hefyd i arwain tri o gerddwyr eraill oedd ar goll a heb yr offer priodol oddi ar un o lwybrau'r Wyddfa. Roedd hi'n tywyllu a doedd ganddyn nhw ddim fflach lampau wrth gerdded ar hyd Llwybr Pen-y-Gwryd. Cafodd Tîm Achub Dyffryn Ogwen eu galw i gynorthwyo dynes o Sir Gaerhirfryn oedd mewn criw o 20 o gerddwr wedi iddi lithro ger Rhaeadr Aber. Cafodd ei chludo mewn hofrennydd gan y Llu Awyr o'r Fali i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Fe wnaeth y tîm hefyd lwyddo i arwain cwpl o Essex a'u mab 5 oed oedd wedi mynd ar goll wrth ddod i lawr Tryfan. Roedd ganddyn nhw'r offer cywir.
|