British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Hydref 2010, 12:26 GMT
'Cymru i osod ei hamser ei hun' yn ôl gwleidydd

Cloc larwm yn dangos
Mae 'na wahaniaeth barn ynglyn â newid yr amser

Fe ddylai Cymru allu gosod eu hamser ei hun a pheidio gorfod newid y clociau ddwywaith y flwyddyn yn ôl yr Arglwydd Archer.

Fe ddywedodd y gwleidydd a'r awdur Jeffrey Archer wrth BBC Cymru bod datganoli yn golygu nad oedd rhaid i wledydd y Deyrnas Unedig fod i gyd ar yr un amser.

Yn 1999 fe wnaeth fethu cyflwyno mesur oedd yn rhoi'r hawl i Gymru, Lloger a'r Alban osod eu hamser ei hun.

"Pam y dylai gweddill Prydain newid dim ond er mwyn plesio'r Albanwyr?" meddai.

Dywedodd y gallai'r Alban gael trefn wahanol i weddill Prydain.

"Os oes ganddoch chi'ch senedd eich hun, gwnewch eich pethau eich hunain," meddai.

"Fe fyddai'n rhywbeth poblogaidd a rhad iawn."

Gwahaniaeth barn

Yn y 1960au cafwyd arbrawf i gadw'r DU ar amser yr haf ond daeth i ben ar ôl tair blynedd.

Cafodd y clociau eu newid awr yn ôl y penwythnos yma.

Mae mudiad Lighter Later yn cynnig ateb arall, newid y clociau ymlaen awr drwy'r flwyddyn a dal i newid y clociau yn y gwanwyn a'r haf.

"Dwi'n hoffi'r syniad," meddai'r ffermwr Michael George o Hwlffordd.

"Fe fydd hyn yn helpu ni yn y tymor casglu gwair a chynhaeaf a fyddwn ni ddim yn colli cymaint o oriau gyda'r nos yn y tywyllwch."

Ond dywedodd Roger Lewis, ffermwr arall o Sir Benfro, fod yn well ganddo gael y golau yn gynharach yn y diwrnod.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific