British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Hydref 2010, 17:58 GMT
Protest yn erbyn is-raddio gwasanaeth achub

Hofrennydd achub
Gall y gwasanaeth achub gael ei is-raddio

Mae protest wedi cael ei chynnal yn ne Cymru yn erbyn cynlluniau i israddio gwasanaeth achub yn Nyfnaint.

Roedd dros 100 o bobl yn y brotest yn Rest Bay, Porthcawl, ddydd Sul.

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw haneru'r gwasanaeth achub 24 awr yn Chivenor ond fe gafodd y cynlluniau eu hatal yn yr Adolygiad Gwariant yn gynharach yn y mis.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth nad oedd 'na benderfyniad wedi cael ei wneud ac y bydd 'na "yr un faint o wasanaeth achub".

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd AS Pen-y-bont ar Ogwr Madeleine Moon ac AC Gorllewin De Cymru, Peter Black.

Mae 'na wasanaeth 24 awr ar hyn o bryd gan y Llu Awyr yn Chivenor sy'n gwasanaethu de Cymru, gogledd Dyfnaint, Gwlad yr Haf a Môr Hafren.

Cefnogaeth

Ond o dan gynlluniau gafodd eu cyflwyno ym mis Mawrth fe fyddai'r gwasanaeth nos yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Awyr y Llynges yn Culdrose yng Nghernyw neu'r Llu Awyr yn Y Fali.

Y cynghorydd lleol Sean Aspey sydd wedi trefnu'r digwyddiad.

"Dydi pobl ddim yn sylweddoli bod Chivenor yn gwasanaethu cymaint o'n arfordir ni yn ne Cymru," meddai.

"Dwi'n siŵr bod nifer yn credu bod canolfan y llu awyr ym Mreudeth yn dal ar agor.

"Mae 'na gefnogaeth i beidio cwtogi'r gwasanaeth o dde Cymru i Ddyfnaint.

"Bydd miloedd yn diodde wrth i'r gwasanaeth gael ei israddio."

Dywedodd Mr Aspey fod 'na gefnogaeth o Abertawe, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i Gaerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Mynwy a Chasnewydd.

Y llynedd cafodd tîm achub Chivenor eu galw i gynorthwyo 280 o achosion yn ne Cymru.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific