British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Hydref 2010, 13:31 GMT 14:31 UK
Miloedd yn cystadlu ym Marathon Eryri

Man cychwyn newydd i Farathon Eryri

Mae'r ras wedi cael ei chyfri fel y marathon gorau yn y Deyrnas Unedig ac un o'r rhai anoddaf.

Am yr 28ain tro cafodd Marathon Eryri ei chynnal ddydd Sadwrn.

Eleni roedd 'na fan cychwyn newydd ond mae'r ras yn dal yn heriol.

Richard Gardiner o Aberdâr enillodd y ras mewn 2 awr 36 munud a 24 eiliad gyda Christine Howard y cyntaf o'r merched i gwblhau'r ras mewn 3 awr 05 munud a 15 eiliad.

Cafodd y ras gyntaf ei chynnal yn 1982 ac ychydig iawn oedd y trefnwyr yn credu y byddai'r ras mor boblogaidd.

ENILLWYR MARATHON ERYRI
Richard Gardiner: 2:36:24
Mathew Janes: 2:38:43
Michael Aldridge: 2:42:33
Christine Howard: 3:05:15
Andrea Rowlands: 3:12:43

Mae'r golygfeydd yn ychwanegu at yr apêl gyda 2,000 o redwyr wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni.

Cychwynnodd y ras am 10.30am ddydd Sadwrn mewn man newydd.

Mae'r trefnwyr wedi dod a'r ras yn ôl i galon pentre Llanberis gyda'r ras yn cychwyn a gorffen yno.

Roedd y ras yn arfer cychwyn yn Nant Peris ond roedd yn cychwyn eleni ar gyrion y pentref ac yn gorffen ar y Stryd Fawr yn hytrach nag yn y cae arferol.

"Y prif reswm am y newid yw o ran diogelwch y rhedwyr," meddai un o'r trefnwyr Jayne Lloyd.

"Fe fydd y rhedwyr yn mynd ar hyd hen ffordd Pen-y-Gwryd ac yn rhoi golwg newydd i'r cystadleuwyr.

"Gobeithio, wrth ddod a'r ras i ganol y pentref y bydd 'na awyrgylch arbennig ac y caiff y trigolion lleol fod yn rhan o'r digwyddiad.

"Y gobaith hefyd yw y bydd yr amseroedd yn gyflymach hefyd."

Roedd y rhedwyr yn teithio o Lanberis am Ben-y-Gwryd ac yna i lawr am Lyn Dinas ac i Feddgelert cyn mynd ymlaen i Ryd-ddu a Waunfawr cyn gorffen yn ôl yn Llanberis.

Cafodd y ras ei henwi yng nghylchgrawn Runners World yn 2007 fel y marathon gorau yn y DU.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific