British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Hydref 2010, 18:55 GMT 19:55 UK
Gweithwyr Kronospan yn Y Waun yn protestio

Gweithwyr tu allan i Kronopsan yn Y Waun yn protestio
Gweithwyr tu allan i Kronopsan yn Y Waun yn protestio

Bu ffatri yn Wrecsam ar gau am ddwy awr ddydd Gwener fel protest drwy Ewrop sy'n ymwneud â thaliadau gan ychwanegu bod 600 o swyddi mewn perygl.

Ymunodd dros 200 o weithwyr ffatri Kronospan ger Y Waun â diwrnod o weithredu drwy Ewrop.

Maen nhw'n gwrthwynebu taliadau sy'n cael eu rhoi i gwmnïau sy'n llosgi coed i greu ynni, lle nad ydy'r arian ar gael i fusnesau sy'n creu nwyddau ohono fo.

Mae Kronospan yn gwneud paneli pren a chynnyrch pren eraill.

"Os fydd hyn yn parhau fe fydd y coed yn mynd yn rhy ddrud i'w brynu," meddai Dennis Pugh, cyfarwyddwyr ymgynghorol y cwmni.

"Fe fydd cwmnïau fel ni yn methu fforddio cael coed i'w gynhyrchu.

"Wrth gwrs fe fydd y coed yn brin."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific