British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Hydref 2010, 10:21 GMT 11:21 UK
Penfro'n well na Hawaii a Bermuda

Arfordir Penfro

Mae'r cylchgrawn National Geographic wedi cyhoeddi mai Sir Benfro yw'r ail gyrchfan arfordirol gorau yn y byd - gan guro llefydd fel Hawaii a Bermuda.

Dim ond arfordir Newfoudland a Labrador yng Nghanada oedd yn uwch yn arolwg y cylchgrawn.

Defnyddiodd National Geographic banel o 340 o arbenigwyr mewn twristiaeth gynaliadwy i farnu 99 o gyrchfanoedd arfordirol ledled y byd.

Rhoddwyd marciau i bob un mewn chwech o gategoriau, sef :-

• Safon amgylcheddol ac ecolegol;

• Cywirdeb cymdeithasol a diwylliannol;

• Cyflwr adeiladau hanesyddol a safleoedd archaaeolegol;

• Apel aesthetig;

• Safon rheoli twristiaeth;

• Rhagolygon i'r dyfodol.

Canmoliaeth

Y deg arfordir gorau - National Geographic
Canada: Penrhyn Avalon, Newfoundland
Cymru: arfordir Penfro
Seland Newydd: arfordir Tutukaka
Chile: Fjordiau Chile
Hawaii: arfordir Na Pali
Oman: arfordir Batinah
British Columbia: ynysoedd y gwlff
Canada: arfordir deheuol Nova Scotia
Awstralia: Broome
Ariannyn: Penrhyn Valdés

Roedd canmoliaeth aelodau'r panel i Sir Benfro yn uchel. Dywedodd un:

"Mae ymwelwyr yn dod yn eu niloedd bob blwyddyn i weld prydferthwch y clogwyni a'r cestyll ar hyd yr arfordir.

"Yn ffodus, mae diwydiant twristiaeth hynod aeddfed wedi llwyddo i gadw yn hytrach nag erydu'r priodweddau sy'n gwneud yr ardal mor unigryw."

Ychwanegodd un arall: "Mae Cymru wedi gwneud gwaith ardderchog mewn datblygu cynaliadwy.

"Bydd y llwybr arfordirol sydd newydd ei orffen yn un o'r llwybrau cerdded mwyaf prydferth yn Ewrop. Mae'r trigolion yn gweithi'n galed i sicrhau fod yr amgylchedd arfordirol yn parhau heb ei ddifetha."

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar bron draean o arfordir y sir, a dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru, Hilary McGrady:

"Mae hwn yn newyddion gwych i Sir Benfro. Dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweithio gyda'n tenantiaid amaethyddol, cymdogion a phartneriaid eraill ar y tiroedd yma i adnewyddu rhai o'r llwybrau dros filltiroedd lawer."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific