British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Hydref 2010, 13:39 GMT 14:39 UK
Gwelliant 'ymylol' i gymunedau gan Cymunedau'n Gyntaf

Un o strydoedd y Cymoedd
Mae nifer o ardaloedd difreintiedig yn derbyn cymorth gan y rhaglen

Mae adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud bod angen i'r Cynllun Cymunedau'n Gyntaf gydweithio yn fwy effeithiol gydag eraill i wneud gwahaniaeth mewn ardaloedd difreintiedig.

Dywedodd bod unrhyw welliannau i gymunedau o'r fath rhwng 2001 a 2008 wedi bod "yn ymylol".

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu y gallai unrhyw welliannau i gymunedau ddiodde yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn gwerthuso'r rhaglen.

Ers cael ei lansio yn 2001 mae £214 miliwn wedi cael ei wario ar raglen Cymunedau'n Gyntaf Llywodraeth y Cynulliad er mwyn cynorthwyo pobl yn yr ardaloedd mwya difreintiedig o Gymru.

Cyd-weithio

Dywed y sefydliad fod rhai ardaloedd difreintiedig sydd heb dderbyn arian Cymunedau'n Gyntaf yn aml iawn wedi gweld gwell ffyniant.

"Rydym yn adolygu'r casgliadau sydd yn yr adroddiad ac wedi cysylltu gyda'r awduron i gael eglurhad ar sawl pwynt," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

"Mae gwaith eisoes yn cael ei wneud i ateb rhai o'r pwyntiau sydd yn yr adroddiad.

"Rydym yn gwerthuso Cynllun Cymunedau'n Gyntaf ar hyn o bryd ac mae disgwyl adroddiad ym mis Mai 2011."

Prifysgol Manceinion wnaeth yr ymchwil diweddara ar gyfer y sefydliad.

Diffyg gwerth

Mae'n nodi bod angen "gwella'r berthynas gyda chynlluniau adfywio eraill" er mwyn bod yn llwyddiannus.

"Mae ymchwil blaenorol yn dangos bod 'na rywfaint o lwyddiant," meddai Katharine Knox, rheolwr y prosiect ar ran y sefydliad.

"Ond mae'r prosiect yma yn dangos bod 'na gymunedau wedi elwa, prisiau tai wedi codi, mae diweithdra yn dal yn broblem a'r hinsawdd economaidd yn ansicr."

Fe wnaeth y llywodraeth sefydlu'r rhaglen yn 2001 ac mae 'na 188 o brosiectau i wella cymunedau ar draws Cymru mewn 200 o ardaloedd difreintiedig.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ganfod bod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu dangos bod y rhaglen yn cynnig werth am arian.



HEFYD
Adroddiad beirniadol dan y lach
20 Ebr 10 |  Newyddion
Pryder am gynllun adfywio £214m
23 Chwef 10 |  Newyddion
Ardaloedd tlawd i rannu £1.4m
13 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific