British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Hydref 2010, 07:11 GMT 08:11 UK
Lansio ApÍl y Pabi yng Nghymru

ApÍl Y Pabi yn cael ei lansio

Y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, fydd yn lansio Apêl y Pabi i'r Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru yn ddiweddarach.

Bydd Mr Jones yn cwrdd â chyn-filwyr yr Awyrlu a fu'n gwasanaethu yn Afghanistan yn y digwyddiad yn y Fali ar Ynys Môn.

Nod yr apêl eleni yw cefnogi'r 'genhedlaeth Afghan' - y rhai gafodd eu hanafu neu a gollodd anwyliaid yn ystod y rhyfel yn Afghanistan.

Daw'r lansiad ar ddathliad 70 mlynedd ers diwedd y 'Battle of Britain' ddydd Sadwrn.

'Anrhydedd'

Dywedodd Mr Jones: "Mae Apêl y Pabi yn un o'r ymgyrchoedd mwyaf adnabyddus yn y calendr sydd hefyd yn cael cefnogaeth aruthrol gan roi'r cyfle i'r genedl anrhydeddu'r rhai sydd yn, neu wedi, gwasanaethu gyda'n Lluoedd Arfog.

"Mae'r ffocws eleni ar y 'genhedlaeth Afghan' yn arbennig o ingol wrth i ni ddangos ein parch y rhai sydd yn, neu wedi, gwasanaethu yn Afghanistan yn amddiffyn y gwerthoedd o heddwch a rhyddid sydd mor agos at ein calonnau.

"Mae'n anrhydedd yn wir cael rhannu lwyfan gydag aelodau o'r lluoedd sy'n cynrychioli'r 'genhedlaeth Afghan' yn ein Lluoedd Arfog."

Bydd Ymgyrch y Pabi yng Nghymru yn ceisio cyrraedd neu wella ar y nod y llynedd o £2.6 miliwn.

Trwy Brydain, mae'r ymgyrch yn gobeithio codi £36 miliwn.

Dywedodd Mike Greenwood, rheolwr rhanbarthol gogledd Cymru i'r Lleng Brydeinig Frenhinol: "Mae naw mlynedd o rhyfel wedi cynyddu'r angen am gymorth heddiw ac am flynyddoedd i ddod.

"Er gwaetha'r cyfnod economaidd anodd, rydym yn ymddiried ym mhobl Cymru i ddangos eu cydymdeimlad a'u cefnogaeth i'r rhai sydd wedi aberthu dros eu gwlad."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific