Penderfynwyd ym mis Tachwedd 2009 fod angen edrych ar addysg cynradd yn ardal Edeyrnion
|
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael caniatâd i adolygu trefniadau addysg gynradd mewn rhan o'r sir. Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, cytunodd cabinet yr awdurdod y dylid cynnal adolygiad o ysgolion cynradd yn ardal Edeyrnion. Ymhlith y materion fydd yn cael sylw: - Cais i ehangu'r ddarpariaeth addysg Cymraeg
- Llefydd gwag mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a Chymraeg
- Prinder cenedlaethol o brifathrawon
- Defnydd o adeiladau symudol
- Cynaliadwyedd a chyfaddasrwydd ysgolion
Dros y chwe mis diwetha' cynhaliwyd cyfnod o ymgynghori anffurfiol gyda phrifathrawon, llywodraethwyr a chynghorwyr. Mae hyn wedi arwain at ddrafftio opsiynau ar gyfer yr ymgynghoriad cychwynnol. Yn sgil ansicrwydd ynglŷn â chyllid, mae'r cabinet wedi penderfynu ymgynghori ar leihau nifer yr ysgolion ar draws yr ardal, a pheidio parhau â chynlluniau posib i greu dwy ysgol ardal am y tro. Ymgynghoriad cychwynnol Bydd ymgynghoriad cychwynnol yn edrych ar nifer yr ysgolion yn yr ardal, yng nghyd-destun nifer sylweddol o lefydd gwag a recriwtio penaethiaid. Yn ôl y cyngor, byddan nhw hefyd yn ystyried cais i ehangu ar y ddarpariaeth ddwyieithog mewn dwy o'r ysgolion. Yr argymhelliad yw cadw Ysgol Caer Drewyn fel yr ysgol fwya' yn ardal Corwen, a chadw Ysgol Maes Hyfryd fel yr ysgol cyfrwng Cymraeg. Maen nhw'n ystyried cau tair neu bedair o'r pump ysgol arall sydd ar ôl yn ardal bro Edeyrnion - sef Ysgol Betws Gwerfil Goch, Ysgol Bro Elwern, Ysgol Carrog, Ysgol Glyndyfrdwy ac Ysgol Lalndrillo. Dywed y cyngor y byddan nhw'n trafod gyda chymunedau lleol i ystyried pob posibilrwydd o fewn yr opsiwn yma, "gan ddelio ag unrhyw faterion, er mwyn darparu cyfundrefn addysg sefydlog a chynaliadwy fydd yn cynnal a gwella safonau addysg a phrofiadau yn y dyfodol."
 |
Bydd yr ymgynghoriad cychwynnol yn dechrau ar Dachwedd 8 a bydd gan bobl tan Chwefror 18, 2011 i ddweud eu dweud
|
Yn ôl arweinydd cabinet cyngor Sir Ddinbych, Eryl Williams: "Bydd yr ymgynghoriad cychwynnol yma yn rhoi cyfle i'r cyhoedd awgrymu opsiynau eraill fyddai'n mynd i'r afael â materion amlwg ar draws yr ardal. "Bydd yr ymgynghoriad cychwynnol yn dechrau ar Dachwedd 8 a bydd gan bobl tan Chwefror 18, 2011 i ddweud eu dweud." Ar ôl i'r ymgynghoriad cychwynnol ddod i ben, bydd y Cabinet yn penderfynu a ddylid parhau i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio. Petai hynny'n digwydd, byddai chwe wythnos arall o ymgynghori. Yna byddai'r Cabinet yn gorfod penderfynu a fydden nhw am gyhoeddi hysbysiad statudol ffurfiol. Yn dilyn cyhoeddi hysbysiad o'r fath, mae cyfnod o ddeufis i unrhyw un leisio gwrthwynebiad. Byddai gan y cyngor fis wedi dyddiad cau'r gwrthwynebiadau i roi manylion unrhyw wrthwynebiad, ynghyd ag ymateb yr awdurdod, i lywodraeth y Cynulliad. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, bydd yr awdurdod yn gwneud penderfyniad. Petai gwrthwynebiad, yna llywodraeth y Cynulliad sy'n penderfynu ar y mater.
|