British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Awst 2011, 11:54 GMT 12:54 UK
Y Dirprwy-Archdderwydd Selwyn Iolen wedi marw

Colli'r 'Eisteddfodwr bach cyffredin'

Mae'r Dirprwy-Archdderwydd Selwyn Griffith, Selwyn Iolen, wedi marw.

Roedd y cyn-brifathro yn 83 oed a bu farw ddydd Mercher yn ei gartref wedi gwaeledd.

Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989 ac roedd yn Archdderwydd rhwng 2005 a 2008.

Yn fab i chwarelwr roedd yn falch o ddechrau ei dymor yn Archdderwydd ar dir Y Faenol nid nepell o'i gartref ym Mhenisarwaun.

Wedi ei eni ym Methel ger Caernarfon yn 1928 bu'n byw yn ei fro enedigol drwy gydol ei oes.

Roedd yn cyfrannu yn helaeth at fywyd cymdeithasol a diwylliannol ei fro.

Athro

Bu'n glerc Cyngor Cymuned Llanddeiniolen am 46 o flynyddoedd ac roedd yn ysgrifennu colofn fisol i bapur bro Eco'r Wyddfa ers y dechrau.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gynradd Bethel ac yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Bu'n gweithio ym myd llywodraeth leol gyda Chyngor Gwledig Gwyrfai am 18 mlynedd cyn dilyn cwrs athro yn y Coleg Normal ym Mangor.

CYHOEDDIADAU
Selwyn Iolen
2007: O Barc y Wern i Barc y Faenol
2000: Nesa i Adrodd...
1995: A Dyma'r Ola'
1995: Mae Gen i Gân gyda Leah Owen
1992: Dewch i Adrodd Eto
1992: Dewch i Adrodd
1990: Pawb yn Barod?
1986: Llwyfan y Plant
1979: C'nafron a Cherddi Eraill

Bu'n dysgu yn ysgolion Cadnant yng Nghonwy, Penybryn Bethesda, Dolbadarn Llanberis ac fel Prifathro Ysgol Gynradd Rhiwlas.

Enillodd nifer helaeth o gadeiriau eisteddfodau lleol ledled Cymru ac fe gyhoeddodd wyth cyfrol o adroddiadau i blant a'i gyfrol C'narfon a Cherddi Eraill.

Bu'n feirniad adrodd a llên mewn eisteddfodau ledled Cymru a bu'n aelod o Orsedd y Beirdd er 1973 ac yn aelod o Fwrdd yr Orsedd er 1991.

Yn 1989 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol gyda dilyniant o Gerddi ar y testun 'Arwyr'. Y tri beirniad oedd Bedwyr Lewis Jones, Nesta Wyn Jones a John Gruffydd Jones

Yn ogystal ag eisteddfota, ei ddau brif ddiddordeb oedd ganddo oedd teithio'r byd a phêl-droed.

Mynychodd bob prifwyl ers Caernarfon yn 1935 ac eithrio rhyw ddwsin.

Cyn diwedd ei dymor fel Archdderwydd Cymru cyhoeddodd ei hunangofiant, O Barc y Wern i Barc Y Faenol.

Yn 2005, ei flwyddyn gyntaf fel Archdderwydd, y cafodd meini symudol eu defnyddio ar gyfer Cylch yr Orsedd.

Yr Archdderwydd Selwyn Iolen a'i wraig wnaeth dalu am y Maen Llog.

Yn Eisteddfod Y Bala yn 2009 bu'n gwasanaethu fel Archdderwydd oherwydd gwaeledd Dic Jones a fo arweiniodd y seremoni i Urddo Jim Parc Nest yn Archdderwydd yn Seremoni Cyhoeddi Wrecsam a'r Cyffiniau 2010.

Mae'n gadael ei briod Myra a'u mab Euron.



HEFYD
Gosod y Maen Llog ar y Maes
29 Gorff 05 |  Newyddion
Archdderwydd: 'Dim Saesneg'
01 Awst 05 |  Newyddion
Archdderwydd newydd i Gymru
27 Meh 05 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific