British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Hydref 2010, 12:37 GMT 13:37 UK
Bwrdd: Penderfyniad 'sarhaus' yw'r newidiadau i S4C

Meri Huws
Dywed Meri Huws bod y cyhoeddiad yn "gwbl sarhaus" ar yr iaith

"Cwbl sarhaus" yw disgrifiad Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg am y cyhoeddiad gafodd ei wneud am ddyfodol S4C yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Prydain y byddai'r BBC yn rhannol gyfrifol am y sianel yn y dyfodol ac y byddai llai o gyllid ar gael ar ei chyfer.

Yn ôl Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd, does dim digon o drafod agored wedi bod.

Aeth ymlaen i ddweud bod y penderfyniad yma a nifer o benderfyniadau eraill ynglŷn â'r iaith yn golygu bod ei dyfodol yn ymddangos yn "ddu iawn".

Mae'r bwrdd yn dweud bod y penderfyniad yn mynd i gael effaith "andwyol ar yr iaith".

"Mae S4C yn rhan hanfodol o'r strategaeth gyffredinol i ddiogelu'r Gymraeg," meddai Ms Huws.

'Drysau caeedig'

"Dros y degawdau diwethaf, fe ddaeth S4C â statws i'r iaith, a hynny drwy gyfoeth y rhaglenni a'r ffilmiau yr oedd yn ei darlledu.

"Lle'r oedd corff annibynnol yn gwneud penderfyniadau darlledu yn seiliedig ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, bellach mae dryswch llwyr.

"Trwy gynnal eu trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig yn Llundain, mae'r Llywodraeth Brydeinig wedi tanseilio a sarhau holl ddarlledu yng Nghymru."

Mae Ms Huws yn feirniadol o "ymrwymiadau'r Llywodraeth" at y Gymraeg.

"Maen nhw wedi ein hamddifadu o unrhyw gynllunio hirdymor ar gyfer darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg, a'n cyfyngu i ryw dair neu bedair blynedd yn unig," ychwanegodd.

"Fe gymerodd hi flynyddoedd o ymgyrchu i sefydlu'r Sianel, a bu hi'n gwasanaethu pobl Cymru i safon uchel am 28 oed.

"Cwta wythnos a gymerodd hi i'r Llywodraeth Brydeinig dynnu'r plwg. Mae'n anghredadwy."

Dywedodd mai'r hyn sy'n peri'r pryder mwyaf iddi yw bod y newidiadau yn digwydd ynghanol llu o newidiadau eraill i'r iaith, er enghraifft dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

"Mae hi'n gyfnod ansicr ar y Gymraeg," meddai.

"Mae'r pethau hynny a oedd yn ymddangos fel eu bod yma i aros bellach yn cael eu tynnu oddi arnom, ac mae pethau o'r herwydd yn ymddangos yn ddu iawn ar yr iaith."



HEFYD
S4C: 'Modd cyfiawnhau toriadau'
20 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Manylion y cydweithio
21 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: 'Pryder am annibyniaeth'
21 Hyd 10 |  Newyddion
'BBC i ariannu S4C'
19 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Cais am adolygiad barnwrol
20 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific