British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Hydref 2010, 09:15 GMT 10:15 UK
Sioe oleuadau i ddathlu penblwydd Tŵr y Jiwbili

Sioe oleuadau

Cerddodd dros 4,000 o bobl i gopa ucha' Bryniau Clwyd nos Sul i weld sioe oleuadau i gofnodi 200 mlynedd ers codi tŵr yno.

Roedd y goleuadau laser a thân gwyllt lliwgar i'w gweld am filltiroedd.

Cafodd Tŵr y Jiwbilî ei godi ar ben Moel Famau er mwyn dathlu jiwbilî aur Siôr III.

Yn ôl cofnodion o'r cyfnod daeth miloedd i weld y seiliau cynta' yn cael eu gosod.

Yr artist Chris Oakley o Goedpoeth, ger Wrecsam, oedd yn gyfrifol am y sioe oleuadau .

Dywedodd yr artist, sydd wedi gweithio ar brosiectau yn Los Angeles, Moscow, Abu Dhabi a Madrid, ei fod yn falch o'r cyfle i weithio mor agos i'w fro enedigol.

Difrodi

Roedd generadur, sy'n defnyddio tanwydd bio wedi ei ailgylchu, yn sicrhau golau o'r un cryfder a goleudy.

Bydd y golau i'w weld am tua wythnos ar ôl Hydref 24.

Yr artist Chris Oakley oedd yn gyfrifol am y golau
Roeddwn i wedi synnu gyda nifer y bobl ddaeth a 'dwi wrth fy modd gyda'r ffordd aeth pethau
Chris Oakley, artist y sioe

Cafodd y tŵr gwreiddiol ei ddifrodi gan storm yn 1850, gan adael y gweddillion sydd i'w gweld yno heddiw.

Mae'r gweithgareddau dathlu yn ganlyniad partneriaeth rhwng siroedd Dinbych a Fflint, y Comisiwn Coedwigaeth ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Dywedodd Ruth Williams, o Gyngor Sir Ddinbych: "Roedd hi'n noson wych.

"Fe ddosbarthon ni 1,500 o fedalau coffa - ond roedd 'na lawer mwy o bobl yno.

"Roeddan nhw fel morgrug ar y bryn."

Gweld am filltiroedd

Roedd y pelydryn yn goleuo'r awyr uwchben y copa, ond roedd hefyd yn adlewyrchu cynllun y tŵr gwreiddiol gafodd ei ddinistrio.

Fel rhan o'r prosiect bu Chris Oakley hefyd yn hel atgofion pobl yr ardal am Tŵr y Jiwbilî.

Roedd delweddau a phytiau ysgrifenedig, a gafodd eu creu mewn gweithdai cymunedol, yn cael eu dangos ar y tŵr mewn arddangosfa sain weledol. Bu ysgolion yn siroedd Dinbych a Fflint hefyd yn rhan o'r gweithgareddau.

Roedd cannoedd o bobl o ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru a Glannau Mersi wedi cofrestru ar wefan Tŵr y Jiwbilî 200, gyda nifer yn rhannu eu hatgofion personol am y tŵr.

Yn ôl Chris Oakley: "Roeddwn i wedi synnu gyda nifer y bobl ddaeth a 'dwi wrth fy modd gyda'r ffordd aeth pethau."

Dywedodd David Shiel, swyddog gydag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, fod y digwyddiad yn un hynod iawn.

"Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r ardal fel lleoliad cynaliadwy i dwristiaid.

"Mae'r economi ymwelwyr yn siroedd Dinbych a Fflint yn bwysig eithriadol.

"Wrth godi proffil Tŵr y Jiwbilî, y gobaith ydy gwella'r siawns o gael arian i wneud gwaith cynnal a chadw ar yr eicon Cymreig hwn."

Miloedd ar gopa Moel Famau
Roedd miloedd o bobl ar y copa i weld yr arddangosfa



HEFYD
Dathlu codi twr ar gopa
27 Mai 10 |  Newyddion
Ymestyn ardal o harddwch?
01 Hyd 10 |  Newyddion
Caer fynyddig yn 3,000 mlwydd oed
02 Medi 09 |  Newyddion
Cerflun unigryw ar ben y bryn
16 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific