British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Hydref 2010, 06:48 GMT 07:48 UK
Parcio: 'Cost ychwanegol o £120'

Ceir wedi parcio
Dywed yr arolwg fod gyrwyr Aberystwyth yn cymryd 35 munud i barcio

Trigolion Aberystwyth sy'n treulio'r amser mwyaf ymhlith gyrwyr Prydain yn dod o hyd i lefydd parcio, yn ôl arolwg diweddar.

Ar gyfartaledd maen nhw'n treulio 35 munud i barcio, deg munud yn fwy na gyrwyr yng ngweddill Prydain.

Cafodd 9,000 o yrwyr ledled y Deyrnas Unedig eu holi.

Cwmni meysydd parcio NCP wnaeth yr arolwg ac maen nhw'n dweud fod yr amser ychwanegol yn golygu cost ychwanegol o £120 i yrwyr yn Aberystwyth.

Dywedodd 36% o yrwyr Aberystwyth na fyddan nhw'n ceisio parcio, pe bai car arall tu ôl iddyn nhw, oherwydd y pwysau ychwanegol.

Dywedodd maer y dre', Sam Hearne, fod parcio i breswylwyr yn broblem, ond fod digon o lefydd parcio ar gyfer siopwyr.

Yn ôl Ms Hearne, mae cynlluniau i godi maes parcio aml-lawr yn y dre'.

Ychwanegodd: "Mae 'na feysydd parcio a safleodd parcio a theithio ar gael yn Aberystwyth, ond dwi'n meddwl fod y pris yn broblem gan bobl.

Ceir myfyrwyr

"Efallai fod pobl yn hoffi'r hwylustod o barcio yng nghanol y dre', ger y siopau, ond nad ydyn nhw'n hoff o feysydd parcio talu ac arddangos?

"Mae preswylwyr weithiau'n ei chael yn anodd i barcio yn y dre', a ddylen nhw ddim gorfod talu ac arddangos.

"Mae ceir myfyrwyr yn cymryd lot o'r llefydd parcio i breswylwyr ac mae hyn yn gallu bod yn rhwystredig i'r bobl sy'n byw yno."

Yn ôl yr arolwg, roedd gyrwyr Caerdydd yn cymryd 25 munud i barcio ar gyfartaledd, sef yr un cyfartaledd a gyrwyr ledled y Deyrnas Unedig.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific