British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 23 Hydref 2010, 08:56 GMT 09:56 UK
Rhybudd yfed alcohol o dan oed

Model o fachgen ifanc yn yfed
Dywed arbenigwyr bod yfed dan oed yn cael effaith corfforol ar blant a phobl ifanc Cymru

Mae angen rhoi diwedd ar allu pobl ifanc i brynu alcohol am brisiau 'pres poced' yn ôl elusen.

Dywed Alcohol Concern Cymru fod modd prynu'r mwyafswm wythnosol o alcohol sy'n cael ei argymell ar gyfer dyn am lai na £4, a'r mwyafswm i ferch am lai na £3.

Mae'r elusen yn cefnogi galwad Llywodraeth Cynulliad Cymru am yr hawl i ddeddfu ar brisiau alcohol.

Yn ôl ffigyrau Alochol Concern Cyrmu mae yna broblem ddifrifol ymhlith pobl ifanc.

Amcangyfrifwyd bod 54% o fechgyn 15 oed yng Nghymru a 52% o ferched 15 oed yn dweud eu bod wedi meddwi ddwywaith o leiaf.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 500 o blant dan 16 oed yn aros yn yr ysbyty oherwydd cyflyrau'n ymwneud ag alcohol, medd yr elusen.

Mae' adroddiad gan yr elusen yn galw am ganfod yn fwy cynnar pobl ifanc sy'n yfed yn beryglus - fel y rhai sy'n mynd i adran ddamweiniau neu'n mynd i helynt gyda'r heddlu oherwydd alcohol - fel y gallant gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

'Cefnogaeth'

Dywedodd Andrew Misell, rheolwr polisi Alcohol Concern Cymru: "Rhaid i ni edrych ar y rhesymau y mae cynifer o bobl ifanc yn yfed cymaint, gan gynnwys prisiau gwirion o isel diodydd mewn rhai mannau.

"Gydag alcohol ar werth am gyn lleied ag 18c yr uned, mae modd prynu'r mwyafswm wythnosol o alcohol ar gyfer dyn am lai na £4, a'r mwyafswm i ferch am lai na £3."

Mae'r elusen am weld isafswm o 50 ceiniog yr uned yn cael ei godi ar alcohol.



HEFYD
Urdd: Pryder comisiynydd
29 Maw 10 |  Newyddion
Alcohol: Nifer y cleifion yn codi
16 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific