British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Hydref 2010, 18:13 GMT 19:13 UK
Jonsi wedi gadael Radio Cymru

Eifion Jones
Bu Jonsi yn cyflwyno ar Radio Cymru am 15 mlynedd

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi fod y darlledwr Eifion Jones, neu Jonsi, wedi gadael BBC Radio Cymru.

Fydd o ddim yn dychwelyd i gyflwyno ei raglen ddyddiol ar yr orsaf.

Mewn datganiad mae Eifion Jones yn dweud fod gweithio i Radio Cymru wedi bod yn "anrhydedd fawr" ond wedi 15 mlynedd mae'n edrych ymlaen at "weithio ar brosiectau eraill".

Mae BBC Cymru wedi gwrthod gwneud sylw am adroddiadau yn y wasg ynglŷn â chwyn yn ei erbyn - honiad y mae Eifion Jones ei hun wedi ei wadu.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru y bydd Geraint Lloyd yn parhau i gyflwyno'r rhaglen am y tro bob pnawn rhwng 2 a 5pm.

Fe fydd cynlluniau hir dymor ar gyfer y prynhawn yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific