British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Hydref 2010, 05:48 GMT 06:48 UK
Trafod adeilad a ffrwd newydd i Ysgol Treganna

Arwydd Ysgol Treganna
Y gobaith yw y bydd gan Ysgol Treganna adeilad newydd erbyn 2013

Bydd is-bwyllgor addysg Cyngor Caerdydd yn cyfarfod i drafod darpariaeth addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd yn ardal Treganna.

Ym mis Medi fe wnaeth y cyngor cyfarfod i drafod lleoliad ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Treganna.

Bu ansicrwydd am ddyfodol lleoliad Ysgol Treganna, wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wrthod cynlluniau gwreiddiol y cyngor i gau ysgol cyfrwng Saesneg gerllaw a symud disgyblion Treganna yno.

Ond bwriad Caerdydd nawr yw codi ysgol newydd ar dir y cyngor ar Ffordd Sanatorium erbyn 2013.

Yn ôl y cyngor mae 'na gynnydd sylweddol yn y galw am addysg Gymraeg yn ardal Treganna, Glanyrafon a Grangetown.

Diffyg lle

Dywed adroddiad wrth yr is-bwyllgor ddydd Gwener bod 'na gynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu geni yn yr ardal am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae'r galw am lefydd eisoes yn fwy 'na llefydd sydd ar gael yn Ysgol Pwll Coch a Threganna ac yn Ysgol Tan yr Eos, chwaer ysgol Treganna.

Cafodd Ysgol Tan yr Eos ei sefydlu yn 2007 i ateb y galw am ddiffyg lle yn Ysgol Treganna sydd ar hyn o bryd yn rhannu safle gydag Ysgol Gynradd Saesneg Radnor Road.

Y cynnig i'r cynghorwyr yw cymeradwyo symud Ysgol Gynradd Gymraeg Treganna i adeilad newydd ar Ffordd Sanatorium erbyn 2013 fel trydedd ffrwd a chau Ysgol Tan yr Eos wrth i'r holl ddisgyblion fod ar yr un safle ac agor trydedd ffrwd yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch o fis Medi 2011 ymlaen.

Fe fyddan nhw hefyd yn trafod agor trydedd ffrwd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Y Wern yn Llanisien yn 2011.



HEFYD
Addysg Gymraeg: Datrys y ffrae?
21 Medi 10 |  Newyddion
'Angen i Carwyn Jones ailfeddwl'
06 Awst 10 |  Newyddion
Cyngor yn 'llusgo traed'
04 Meh 10 |  Newyddion
Gwers fel protest yn Y Senedd
29 Meh 10 |  Newyddion
Plaid yn galw am esboniad llawn
30 Mai 10 |  Newyddion
Na i ehangu addysg Gymraeg
27 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific