British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Hydref 2010, 07:57 GMT 08:57 UK
S4C: 'Pryder am annibyniaeth'

Arwel Elis Owen
Arwel Elis Owen: Pryder am annibyniaeth

Dywed prif weithredwr S4C fod pryder ymhlith nifer o bobl y bydd y Sianel yn colli ei hannibyniaeth oherwydd newidiadau'r llywodraeth yn y modd mae'r corff yn cael ei ariannu.

Ddoe cyhoeddodd y canghellor George Osborne mai'r BBC fydd yn rhannol gyfrifol am ariannu'r Sianel yn y dyfodol.

Ond dywed Arwel Elis Owen nad yw'r cynllun, sy'n dilyn model tebyg i BBC Alba yn yr Alban, yn addas ar gyfer Cymru.

"Mae rhai yn teimlo o fewn ychydig amser bydd pobl yn galw S4C yn BBC Cymru."

Ddoe cyhoeddodd Awdurdod S4C y byddant yn ceisio adolygiad barnwrol yn erbyn y newidiadau.

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua £100 miliwn y flwyddyn gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Cyhoeddodd y canghellor y bydd hyn yn gostwng 25% erbyn 2015.

Dywedodd Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, bod y llywodraeth wedi rhoi gwybod i'r BBC eu bod wedi dod i'r casgliad nad oedd S4C yn gynaladwy yn ei ffurf bresennol.

"Dywedodd y Gweinidogion wrth y BBC eu bod yn credu mai model partneriaeth newydd - yn debyg, mewn egwyddor i BBC Alba - fyddai'r ffordd orau i sicrhau dyfodol hirdymor gwasanaeth S4C," meddai.

Dywedodd mai'r flaenoriaeth bwysica yw "sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn parhau i fwynhau gwasanaeth teledu sy'n nodedig ac o safon uchel."

"Mae'r BBC yn ymwybodol iawn bod cyfraniad y sector annibynnol wedi bod yn greiddiol i ddatblygiad S4C fel sianel.

"Ry'n ni wedi cadarnhau i Weinidogion y DU y dylai buddsoddiad ychwanegol y BBC mewn rhaglenni i S4C gael ei wario gyda'r sector annibynnol."

Clywodd y BBC y bydd pris y drwydded deledu yn aros yr un fath tan 2016/17.

Ond mae'r gorfforaeth wedi cytuno y bydd arian ar gyfer rhan gyllido S4C a thalu am wasanaeth y World Service yn dod o arian y drwydded.



HEFYD
S4C: 'Modd cyfiawnhau toriadau'
20 Hyd 10 |  Newyddion
'BBC i ariannu S4C'
19 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Newid yn y ddeddf
14 Hyd 10 |  Newyddion
'Toriadau S4C yn peryglu perthynas'
15 Hyd 10 |  Newyddion
S4C a BBC i gyd-weithio
14 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific