Mae gweinidogion Bae Caerdydd yn anghytuno gyda ffigyrau'r Trysorlys
Wrth i'r Canghellor George Osborne ddod a'i ddatganiad i ben yn San Steffan ddydd Mercher, dechreuodd gweision sifil, gwleidyddion a newyddiadurwyr ar draws Cymru asesu beth fydd yr effaith ar Gymru.
Wedi misoedd o rybuddion cyson am ddifrifoldeb y toriadau arfaethedig, roedd 'na ddisgwyl gweld toriadau dwfn i gyllideb Llywodraeth y Cynulliad.
Ond tra bod adrannau yn Whitehall fel y Swyddfa Dramor, yr Adran Diwylliant ac Adran Amgylchedd yn gorfod amsugno toriadau sy'n cyfateb at chwarter eu cyllidebau, roedd hi'n ymddangos bod newyddion llawer gwell i weinidogion Llywodraeth Cymru.
Oherwydd, yn ôl y Trysorlys bydd cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn gostwng tua £400 miliwn dros y pedair blynedd nesa - sy'n cyfateb a thoriad yn y gyllideb o 2.5%.
Ar ôl cymryd effaith chwyddiant i ystyriaeth, mae hwn yn debygol o fod yn agosach at doriad o 10%.
Dehongli ffigyrau
Yn ôl ystadegau'r Trysorlys, byddai hyn yn gweld cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn crebachu o £15 biliwn i £14.6 biliwn erbyn 2014/15.
Ond wrth i newyddiadurwyr ddod i'r casgliad bod y sefyllfa yn glir a chymharol syml - a thoriadau sylweddol llai nag oedd gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi darogan - dechreuodd y dadlau a'r cecru.
Toriadau: Ymateb y byd busnes
Yn syml iawn, mae 'na wahaniaeth barn sylfaenol o ran dehongli'r ffigyrau rhwng swyddogion y Trysorlys a gweinidogion ym Mae Caerdydd.
Asgwrn y gynnen yw ffrae ynglŷn â faint o arian sydd yn y gyllideb i Gymru eleni, ac felly faint yn llai o arian fydd ar gael yn y flwyddyn ariannol nesa - gwahaniaeth o tua £900 miliwn.
Crebachu
Mae'n dipyn o wahaniaeth, sy'n galluogi'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol i honni bo'r toriadau llawer yn well na'r disgwyl, tra bod Plaid Cymru a Llafur yn dadlau bo'r toriadau ymysg y gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, bydd y gyllideb yn crebachu tua £1.8 biliwn ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth, erbyn 2014/15.
Tu hwnt i gyllideb Llywodraeth y Cynulliad, bydd amryw o newidiadau eraill fydd yn effeithio ar nifer o bobl yng Nghymru - gan gynnwys cynnydd mewn pensiynau a chodi lefelau credyd treth i blant o'r teuluoedd tlotaf.
Ond mae'r ateb i'r ffrae ariannol yma'n allweddol yn y pen draw i strategaeth y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wrth edrych ymlaen at yr ymgyrch etholiadol.
Oherwydd hynny ni ddylai unrhyw un ddisgwyl i weinidogion, yng Nghaerdydd neu yn Llundain, gyfaddawdu na derbyn bod eu hystadegau'n anghywir.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.