British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Hydref 2010, 12:35 GMT 13:35 UK
Sefydlu ysgol gyfun Gymraeg newydd ym Mhort Talbot

Ysgol Gyfun Ystalyfera
Mae cyflwr adeiladau Ysgol Gyfun Ystalyfera yn wael

Mae cabinet Cyngor Sir Castell-nedd Post Talbot wedi pleidleisio o blaid agor ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn ne'r sir.

Ar hyn o bryd un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd yn y sir, yn Ystalyfera, gyda nifer o ddisgyblion yn wynebu taith hir i'r ysgol.

Yn y cyfarfod ddydd Iau fe drafodwyd cau tair ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn ardal Port Talbot er mwyn creu un ysgol fawr.

Gyda'r ad-drefnu yn ardal Port Talbot, mae 'na bosibilrwydd y gallai adeilad fod ar gael er mwyn sefydlu'r ysgol Gymraeg.

Dywed swyddogion addysg y dylid cau ysgolion uwchradd Glanafan, Sandfields a Cwrt Sart, a chodi ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar gost o £30 miliwn.

Yn ôl swyddogion, mae 'na leoedd gwag ymhob un o'r tair ysgol, a byddai angen gwario £14 miliwn er mwyn atgyweirio'r adeiladau.

Clywodd cynghorwyr hefyd bod Ysgol Gyfun Ystalyfera mewn cyflwr gwael ac mae 'na amcan bris o £8 miliwn i'w hadfer.

Wrth ymateb dywedodd Eirian Youngman, o Gymdeithas Rhieni Dros Addysg Gymraeg Castell-nedd Port Talbot, eu bod yn "croesawu'r argymhelliad parthed ysgol uwchradd newydd yn ne'r sir mewn egwyddor."

"Mae trwch y boblogaeth plant uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal hon, ac felly da o beth yw cael darpariaeth deilwng iddynt yn eu hardal leol.

"Rydym fodd bynnag yn pryderu ychydig am sefyllfa Ystalyfera, gan y byddai'n colli cynifer o ddisgyblion yn sgil agor ail ysgol."



HEFYD
Pryder am arian chweched dosbarth
20 Meh 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific