British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Hydref 2010, 19:49 GMT 20:49 UK
Osborne yn cyhoeddi toriadau

replace with contents

Manylion cyhoeddiad George Osborne

Ers pan gyhoeddodd George Osborne yn nyddiau cynnar ei swydd fel canghellor y byddai'n cynnal adolygiad o wariant cyhoeddus ym Mhrydain, mae'r wlad wedi bod yn dal ei gwynt.

Am 12.32pm ddydd Mawrth, fe gododd Mr Osborne ar ei draed i ddechrau datganiad allai gael effaith ar bob agwedd o fywyd yn y Deyrnas Unedig am flynyddoedd i ddod.

Nod y canghellor yw ceisio talu dyled o £83 biliwn o bunnau, a thorri ar wariant cyhoeddus yw'r ffordd orau o wneud hynny yn ei farn ef.

Dros y dyddiau diwethaf, bu darogan o ble yn union y bydd y fwyell yn disgyn, a pha mor ddwfn.

'Ffordd anodd'

Fe fydd yn ffordd anodd, ond fe fydd yn arwain at ddyfodol gwell
George Osborne

Canghellor Y Trysorlys

Dechreuodd Mr Osborne ateb rhai o'r cwestiynau yn gynnar yn ei araith.

Heddiw yw'r dydd lle ddaeth y dyddiau lle bu Prydain yn "dawnsio ar y dibyn economaidd" meddai'r Canghellor.

"Fe fydd yn ffordd anodd," meddai, "ond fe fydd yn arwain at ddyfodol gwell.

"Fe fyddwn yn sicrhau bob teulu ymhob cartref na fyddwn ni'n prynu neu wario ar bethau na fedrwn ni eu fforddio."

Bydd taliadau llog ar ddyled y wlad yn gostwng o £1 biliwn yn 2012, £1.8 biliwn yn 2013 a £3 biliwn yn 2014 - cyfanswm o £5 biliwn dros gyfnod yr adolygiad.

Dywedodd ei fod wedi defnyddio tair egwyddor i'r dewisiadau ar wariant - diwygio, tegwch a thwf.

Ychwanegodd y byddai gwneud arbedion o £6 biliwn yn Whitehall, sy'n fwy na dwywaith y swm yr oedd wedi addo'n flaenorol, ac fe fydd cyllideb Swyddfa'r Cabinet yn cael ei gwtogi o £55 miliwn erbyn 2014/15.

Diswyddiadau

"Fe fydd rhai diswyddiadau yn y sector cyhoeddus (490,000 dros bedair blynedd)," medd Mr Osborne, "ac mae hynny'n anorfod pan fod y wlad wedi rhedeg allan o arian."

Mi fydd yna ymdrech bwriadol i symud grym o'r canol ac yn ôl i gymunedau lleol - ethol Comisiynwyr Heddlu yn lleol a llacio'r rheolau sy'n llyffethair, medd y Canghellor, ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau.

Aeth ymlaen i i sôn am gyllidebau adrannau unigol y llywodraeth.

Bydd cyllideb y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyrraedd £33.5 biliwn erbyn 2014/15 - arbediad o 8%, meddai.

Ond mi fydd yr arian sydd ei angen i gyllido ymgyrch Afghanistan yn cael ei ddiogelu.

Addewid

Rhaid i bawb rannu'r baich i gael y wlad yn ôl ar ei thraed a lleihau'r ddyled
George Osborne

Mi fydd arian datblygu rhyngwladol yn cynyddu o 14%. Mae hynny, meddai Mr Osborne, yn golygu cadw addewid etholiadol.

Bydd y Swyddfa Dramor yn colli 24% o'u chyllideb diolch i ostyngiad sylweddol yn nifer y diplomyddion yn Whitehall a pheth o waith tu ôl i'r llenni yno.

Bydd y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dod o hyd i arbedion o 6% bob blwyddyn, ac fe fydd yr adran Swyddogion Cyfreithiol yn cwtogi eu cyllideb o 24% dros gyfnod yr adolygiad a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn lleihau eu costau yn ogystal.

Tegwch

"Rhaid i bawb rannu'r baich i gael y wlad yn ôl ar ei thraed a lleihau'r ddyled," medd Mr Osborne.

Dywedodd y Canghellor ei fod yn deall pam mae pobol mor flin hefo'r banciau am hyd yn oed ystyried talu bonws.

Rhaid cael y banciau i ysgwyddo rhan o'r baich ac mi fydd mesur yn cael ei gyhoeddi fory i'r perwyl hwnnw.

Mi fydd yna ymgyrch i rwystro twyll yn y drefn drethu. Yn yr un modd, mi fydd na ymgyrch i rwystro pobl rhag twyllo'r drefn budd-daliadau.

Ymddeol

Mi fydd yr oed ymddeol yn codi i 66 yn 2020, bedair blynedd yn gynt na'r disgwyl. Bydd hyn yn arbed £5 biliwn y flwyddyn - arian fydd yn cael ei wario ar ddarparu pensiwn gwladol mwy hael.

Bydd y cynnydd dros dro yn y taliad tywydd oer gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn cael ei wneud yn barhaol.

Rhaid codi cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ond mi fydd y llywodraeth yn disgwyl tan y gwanwyn 2011 cyn gweithredu.

Datganoli

Dywedodd y canghellor y byddai'r gwledydd datganoledig yn gweld cynnydd yn eu cyllidebau, ond fe fydd y cynnydd hwnnw'n llai na chyfradd chwyddiant.

Bydd Cymru'n derbyn £13.5 biliwn yn eu cyllideb refeniw erbyn 2014/15, yr Alban £25.4 biliwn a Gogledd Iwerddon £9.5 biliwn, ond fe fydd hyn yn ostyngiad yn nhermau real.

Ond ychwanegodd Mr Osborne: "Yng Nghymru fe fyddwn ni'n ystyried gyda Llywodraeth y Cynulliad yr argymhellion o adroddiad Hotham, sy'n gyson gyda'r hyn sy'n digwydd gyda gwaith Calman sy'n cael ei wneud yn yr Alban."

S4C

Y BBC oedd y corff nesa i gael sylw.

Dywedodd Mr Osborne ei fod wedi cytuno gyda'r BBC y dylid rhewi cost trwydded deledu am y chwe blynedd nesa.

Fe fyddai'r BBC hefyd yn gyfrifol am ariannu S4C yn rhannol ynghyd ag ariannu gwasanaethau World Service a BBC Monitor, er nad oedd mwy o fanylion am hynny ganddo.

Byddai'r cyfan yn golygu gostyngiad yng nghyllideb y BBC o 16% - roedd hynny medd Mr Osborne yn debyg i gyrff eraill yn y maes diwydiannol.

Gorffennodd Mr Osborne drwy ddweud: "Mae'r penderfyniadau sydd wedi'u cyhoeddi heddiw yn dod â challineb i gyllid cyhoeddus.

"Rwyf wedi delio'n gadarn gyda'r ddyled fwyaf a welodd y wlad erioed mewn cyfnod o heddwch, ac wedi buddsoddi yn isadeiledd ein cymdeithas a'r economi.

"Rwyf wedi rhoi budd y wlad yn gyntaf - yn amddiffyn ysgolion ac iechyd - wedi torri gwastraff, ac wedi tynnu'r wlad yn ôl o fin distryw."



HEFYD
Toriadau: Anghytuno am ffigyrau
20 Hyd 10 |  Newyddion
Amddiffyn: Effaith toriadau ar Gymru
19 Hyd 10 |  Newyddion
Toriadau: Ergyd i bobl anabl
18 Hyd 10 |  Newyddion
Cyfri'r gost etholiadol
18 Hyd 10 |  Newyddion
O le daw'r £82 biliwn o doriadau?
13 Hyd 10 |  Newyddion
Toriadau'n bygwth 50,000 o swyddi
13 Hyd 10 |  Newyddion
Toriadau: Rhaniad de-gogledd
12 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific