British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Hydref 2010, 06:32 GMT 07:32 UK
Ystyried 'tollau uchaf Prydain'

Ail Bont Hafren

Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi bod yn clywed pryderon am effaith y mae'r tollau i groesi Pont Hafren yn eu cael ar fusnesau Cymru.

Disgrifiwyd y tollau fel "direswm" gan gwmnïau lorïau ac arweinwyr busnes wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.

Ond dywedodd cwmni Severn River Crossing mai'r llywodraeth oedd yn gosod lefel y tollau.

Mae adroddiad i'r effaith economaidd ar fusnesau bach wedi dangos effaith fwy ar gwmnïau yn ne Cymru o gymharu â Bryste.

Fe wnaed yr adroddiad gan Yr Athro Peter Midmore o Ysgol Fusnes a Rheolaeth Prifysgol Aberystwyth.

'Anghynaliadwy'

Dywedodd Ian Gallagher, rheolwr polisi y Gymdeithas Trafnidiaeth Fasnachol (FTA), wrth y gwrandawiad y dylai'r tollau gael eu tocio.

"Mae'r tollau i groesi'r Hafren yn uwch nag unman arall yn y DU ac yn anghynaliadwy i lawer o'r busnesau sy'n defnyddio'r coridor fasnachu hanfodol yma," meddai.

Roedd Denise Lovering o gwmni Glenside Commercials yn credu bod y ffaith nad oes modd defnyddio cerdyn credyd i groesi'r pontydd hefyd yn broblem enfawr.

Dywedodd fod y broblem "yn ymddangos yn ofnadwy o hen ffasiwn yn yr oes sydd ohoni", a'i fod yn "boendod go iawn."

Ac fe ddywedodd AS Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, fod absenoldeb adnoddau cerdyn credyd yn creu delwedd "nad yw Cymru yn agored i fusnes a'n bod ar ei hôl hi."

Deddf gwlad

Yn ogystal ag edrych ar y tollau, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig hefyd yn edrych ar ddyfodol y pontydd pan fyddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, eu cyflwr a'r costau cynnal a chadw.

Er eu bod ar hyn o bryd yn eiddo i gwmni preifat, bydd y pontydd yn eiddo i'r llywodraeth pan fydd swm penodol o arian wedi ei gasglu mewn tollau.

Dywedodd Jim Clune, Rheolwr Cyffredinol Severn River Crossing, fod y Ddeddf Pontydd Hafren 1992 yn gosod lefel y tollau, ac mae rhain yn cael eu haddasu'n flynyddol yn seiliedig ar gyfradd chwyddiant yr RPI (Retail Price Index).



HEFYD
Talu cherdyn cyn Cwpan Ryder
16 Medi 10 |  Newyddion
Ymchwiliad i'r gost o groesi pont
22 Gorff 10 |  Newyddion
Talu toll cherdyn 'yn debygol'
27 Ion 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific