British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Hydref 2010, 19:45 GMT 20:45 UK
S4C: Cais am adolygiad barnwrol

S4C am gynnal adolygiad barnwrol

Mae Awdurdod S4C yn mynd i wneud cais am adolygiad barnwrol o newidiadau i'r modd mae'r Sianel yn cael ei hariannu.

Dydd Mercher cyhoeddodd y Canghellor George Osborne mai'r BBC yn ganolog fydd yn rhannol gyfrifol am ariannu'r sianel yn y dyfodol.

Dywedodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, fod llywodraeth Prydain i bob pwrpas wedi penderfynu cyfuno S4C a'r BBC.

Mae Ed Vaizey, Gweidog Diwyllaint, Cyfathrebu a'r Diwydiant Creadigol, wedi amddiffyn y penderfynaid gan ddweud bod yn rhaid i bawb wneud arbedion arainnol.

Yn ôl Mr Jones nid oedd S4C wedi cael unrhyw wybodaeth o flaen llaw am drafodaethau rhwng y BBC a'r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt.

"O dan drefniant o'r fath fe fyddai rhaglenni teledu Cymraeg yn gorfod cystadlu am adnoddau gyda phob un o wasanaethau'r BBC ac y mae Awdurdod S4C o'r farn y byddai hyn yn peryglu gwasanaethau teledu Cymraeg," meddai.

"Rydw i'n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi'i dangos, nid yn unig tuag at S4C, ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i'r iaith.

'Amarch'

"Fe gefais wybod am y cynlluniau difeddwl hyn gan Mr Hunt a chael gwybod hefyd ei fod yn gytundeb nad oedd yn agored i drafodaeth a hynny dim ond wedi i'r wybodaeth gael ei darlledu ar y BBC."

Dywedodd Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, bod y llywodraeth wedi rhoi gwybod i'r BBC eu bod wedi dod i'r casgliad nad oedd S4C yn gynaladwy yn ei ffurf bresennol.

"Dywedodd y Gweinidogion wrth y BBC eu bod yn credu mai model partneriaeth newydd - yn debyg, mewn egwyddor i BBC Alba - fyddai'r ffordd orau i sicrhau dyfodol hirdymor gwasanaeth S4C," meddai.

Toriadau S4C: Adlais o'r cydweithio a fu?

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua £100 miliwn y flwyddyn gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Cyhoeddwyd ddydd Mercher y bydd hyn yn gostwng 25% erbyn 2015.

Dywedodd Mr Vaizey y bydd y newidiadau yn galluog S4C i elwa o'r "arbenigedd sydd gael gan y BBC."

"Ar hyn o bryd yr Adran Diwylliant sy'n ariannu S4C ac mae'n rhaid i ni gyflwyno atebion yr ydym ni'n credu sydd o fwya o fudd i S4C, mewn amgylchedd ariannol anodd.

"Pan fydd y llwch wedi setlo fe fydd pobl yn sylweddoli y bydd hyn yn rhoi dyfodol gwych i S4C ar gyfer y dyfodol."

Yn ôl un ffynhonnell erbyn 2015 bydd y BBC yn cyfrannu tua £76 miliwn i S4C, gyda Llywodraeth San Steffan yn rhoi tua £7 miliwn.

Clywodd y BBC y bydd pris y drwydded deledu yn aros yr un fath tan 2016/17.

Ond mae'r gorfforaeth wedi cytuno y bydd arian ar gyfer rhan gyllido S4C a thalu am wasanaeth y World Service yn dod o arian y drwydded.

Dywedodd Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y BBC, bod y setliad hefyd yn ceisio sicrhau dyfodol hir dymor darlledu yn y Gymraeg drwy ehangu partneriaeth gydag S4C.

"Dyw'r BBC ddim yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth, ond mae'r rhain yn amseroedd anodd, ac rydym yn teimlo y byddai pobl sy'n talu'r drwydded yn disgwyl i ni geisio gwneud cyfraniad synhwyrol.

"Mae'n rhoi cyfrifoldebau newydd i'r BBC.

"Ond mae'n bwysig nodi eu bod yn gyfrifoldebau sy'n berthnasol i bwrpas y BBC - sef i fod yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus o'r safon ucha sy'n gwasanaethu'r holl gynulleidfaoedd."

Annibyniaeth?

Mae Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, wedi disgrifio'r penderfyniad i newid y drefn o ariannu S4C fel un "cywilyddus".

Ychwanegodd nad oedd unrhyw drafodaeth wedi bod rhwng gweinidogion, a'i fod yn dal heb gael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.

Yn ôl ffynonellau o Whitehall, o dan y cytundeb newydd, byddai S4C yn cadw ei hannibyniaeth olygyddol.

Mae golygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, wedi cael ar ddeall mai un model posib sy'n cael ei grybwyll yw bwrdd rheoli ar y cyd i oruchwylio'r berthynas rhwng y BBC ac S4C.

"Ond byddai'n rhaid i hyn ateb galw'r Adran Diwylliant am i S4C gael annibyniaeth olygyddol oddi wrth y BBC - sydd yn ffîn denau iawn."

Mewn e-bost at staff mae Mark Thompson, y BBC, wedi cyfeirio at fodel yn dilyn yr un egwyddorion a BBC Alba.

Dydd Iau diwetha dywedodd BBC Cymru ac S4C eu bod yn trafod cydweithio, gan gynnwys y posibilrwydd o gael un pencadlys.

Mae Cymdeithas yr Iaith, oedd yn ganolog yn y frwydr i sefydlu sianel Gymraeg, wedi disgrifio'r datblygiad fel "anghredadwy".

Dywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd y Gymdeithas: "Mae rhaid bod yn glir am beth mae hyn yn golygu - mynd yn ôl i'r 1970au pan nad oedd S4C yn bodoli.

"Y gwir yw, erbyn 2015, mae'n bosib fydd na ddim sianel ar ôl i'r BBC gymryd drosodd oherwydd toriadau Jeremy Hunt."



HEFYD
S4C: 'Modd cyfiawnhau toriadau'
20 Hyd 10 |  Newyddion
'BBC i ariannu S4C'
19 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Newid yn y ddeddf
14 Hyd 10 |  Newyddion
'Toriadau S4C yn peryglu perthynas'
15 Hyd 10 |  Newyddion
S4C a BBC i gyd-weithio
14 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific