British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Hydref 2010, 17:52 GMT 18:52 UK
'BBC i ariannu S4C'

Logo S4C
Mae'r Sianel yn derbyn tua £100m y flwyddyn

Mae disgwyl cyhoeddiad gan y Llywodraeth ddydd Mercher yn dweud y bydd y BBC yn dod yn gyfrifol am ariannu S4C.

Yn ôl adroddiadau fe fyddai'r sianel yn parhau'n annibynnol dan y trefniant newydd.

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua £100 miliwn y flwyddyn.

Dywedodd un ffynhonnell bod trafodaethau yn parhau yn hwyr ddydd Llun ynglŷn â manylion y trefniant newydd.

Bydd swyddogion S4C yn cwrdd i drafod y datblygiadau diweddara ddydd Mercher.

Dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, nad oedd unrhyw drafodaethau wedi bod rhwng gweinidogion, ac nad oedd o wedi cael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.

"Tra rwy'n aros am fwy o wybodaeth mae'n bwysig ailadrodd pwysigrwydd sicrhau annibyniaeth S4C, a sicrhau fod gan y sianel gyllideb annibynnol a'i fod yn gallu gwneud penderfyniadau golygyddol annibynnol.

"Mae yna beryg pe bai'r BBC yn gyfrifol am ariannu S4C, yna byddai un sefydliad yn domiynyddu darlledu yng Nghymryu.

Rhodri Glyn Thomas: Angen adolygiad barnwrol

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, fod yn rhaid i S4C geisio adolygiad barnwrol yn erbyn Jeremy Hunt, Ysgrifennydd yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Mr Hunt ei fod am roi terfyn ar y trefniant oedd yn golygu bod cyllideb flynyddol S4C yn codi yn unol â graddfa chwyddiant.

Mae'r Adran hefyd wedi gofyn i S4C lunio ymateb yn amlinellu effaith toriadau posib o rhwng 25% a 40%.

Ddydd Iau diwetha dywedodd BBC Cymru ac S4C eu bod yn trafod cydweithio, gan gynnwys y posibilrwydd o gael un pencadlys.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran S4C:

"Mae Jeremy Hunt wedi cysylltu â Chadeirydd Awdurdod S4C John Walter Jones heno ac yn sgil y drafodaeth honno mae cyfarfod o Awdurdod S4C wedi'i drefnu yfory.

"Wrth reswm, bydd yn rhaid i'r Awdurdod a Swyddogion gael amser i ddarllen ac ystyried holl oblygiadau penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol."



HEFYD
S4C: Newid yn y ddeddf
14 Hyd 10 |  Newyddion
'Toriadau S4C yn peryglu perthynas'
15 Hyd 10 |  Newyddion
S4C a BBC i gyd-weithio
14 Hyd 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific