Darlun artist o'r ganolfan hyfforddi arfaethedig yn Sain Tathan, Bro Morgannwg
Mae disgwyl i gyllideb lluoedd arfog Prydain gael ei thocio tua 8% mewn cyhoeddiad fydd yn cael ei wneud gan y Prif Weinidog. Mae'n debyg y bydd y fyddin yn colli hyd at 7,000 o staff, y llynges yn colli llongau ac mae 'na bryder am ddyfodol rhai o ganolfannau'r Awyrlu. Paratoi'r lluoedd arfog yn well ar gyfer y dyfodol ydi'r nod yn ôl David Cameron ddydd Mawrth. Ond mae'r beirniaid yn dweud mai arbed arian ydi'r unig bwrpas. Mae disgwyl cadarnhad y bydd y lluoedd arfog yn cael gwared â'r brif long awyrennau, yr Ark Royal, fel rhan o'r cyhoeddiad. Mae'n debyg mai cynnwys cyllideb y Weinyddiaeth Amddiffyn ydi'r hyn sydd wedi achosi'r mwya o ddadleuon o fewn y llywodraeth yn ystod yr adolygiag gwaiant. Ansicrwydd Fe fydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi'r Adolygiad ar Wariant Cyhoeddus ddydd Mercher. Mae'r toriad o 8% dros bedair blynedd yn llai na'r hyn yr oedd y Tryslorys yn ei ddymuno ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn ond fe fydd yn achosi i weinidogion orfod gwneud penderfyniadau anodd.
Parhau mae'r ansicrwydd am ddyfodol cynllun £14 biliwn i sefydlu canolfan hyfforddiant amddiffyn ym Mro Morgannwg. Bwriad sefydlu coleg hyfforddiant yn Sain Tathan fydd creu canolfan arbenigol ar gyfer yr holl wasanaethau arfog. Roedd disgwyl y byddai'r coleg eisoes wedi ei sefydlu. Ond does 'na ddim sicrwydd y bydd 'na benderfyniad terfynol yn yr adolygiad ddydd Mawrth. Wrth i fanylion yr adolygiad strategaeth amddiffyn a diogelwch gael ei gyhoeddi mae undebau yn lobio'r ASau yn San Steffan. Fe fydd yr adolygiad yn penderfynu ar ddyfodol y lluoedd arfog o ran maint a siâp y gwasanaeth dros y blynyddoedd nesaf. Cynllun Preifat Ymhlith yr hyfforddiant fyddai'n cael ei gynnig yn y coleg y mae arbenigedd peirianyddol a hyfforddiant cyfathrebu a systemau gwybodaeth. Y Weinyddiaeth Amddiffyn fyddai'n ariannu'r cynllun o dan fenter Cyllid Preifat.
Gallai miloedd o swyddi gael eu creu petai'r ganolfan yn cael ei sefydlu
|
Yn ôl Metrix, y cwmni tu ôl i'r cynllun, fe fyddai 2,000 o swyddi yn cael eu creu - y mwyafrif ym maes diogelwch, glanhau ac arlwyo wrth i 800 gael eu cyflogi yn ystod y pedair blynedd o godi'r adeilad. Dywed Undeb Unite os na fydd y coleg yn cael ei sefydlu fe fydd yn "ergyd" i swyddi o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth i 170 o weithwyr Sain Tathan golli eu gwaith cyn diwedd y flwyddyn. "Dyw'r adolygiad ddim yn edrych yn bositif iawn," meddai Kevin Coyne, swyddog undeb Unite gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn. "Sut allan ni ddechrau dod allan o'r dirwasgiad drwy gael gwared ar y system prentisiaeth?" Mae ASau Cymru a gwleidyddion o bob plaid wedi ymgyrchu i weld y coleg hyfforddi yn cael ei sefydlu. Dywedodd Alun Cairns, AS Bro Morgannwg ac AC Gorllewin De Cymru, ei fod yn obeithiol iawn y bydd y coleg yn mynd ymlaen. "Dyma'r ateb cywir ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn ac fe fydd yn arbed arian dros 30 mlynedd. "Ond wrth gwrs, mae'r Trysorlys yn chwilio am ffyrdd o wneud arbedion dros y tair neu bum mlynedd nesaf. "Er hynny, mae'r cynllun yn dal yn rhan o gynllun y weinyddiaeth i wneud arbedion."
|