British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Hydref 2010, 11:02 GMT 12:02 UK
Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Elgan Llyr Thomas
Elgan Llyr Thomas, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010

Elgan Llyr Thomas yw enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru eleni.

Fe gurodd y tenor 20 oed o Landudno saith o gystadleuwyr eraill i ennill y wobr, sydd werth £4000.

Roedd y cystadleuwyr i gyd yn enillwyr yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010. Daeth Elgan i'r brig yng nghystadleuaeth yr Unawd o Sioe Gerdd.

Roedd yr wyth cystadleuydd wedi mynychu dosbarthiadau meistr yn eu gwahanol feysydd, cyn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cyngerdd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid nos Sul.

Dosbarth meistr

Roedd Elgan wedi cael dosbarth meistr gyda'r canwr Rhydian Roberts.

Fel rhan o'i berfformiad, cyflwynodd ddehongliad o 'Y Bugail' gan Wilfred Jones, 'Anfonaf Angel' gan Robat Arwyn, a 'Miwsig Mwyn y Nos' gan Andrew Lloyd Webber.

Roedd Elgan yn un o'r cystadleuwyr ieuengaf eleni.

Mae o yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Opera a'r Llais yng Ngholeg Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, ble gipiodd o wobr 'Elsie Thurston' yn ei flwyddyn gyntaf.

Ennill yr Ysgoloriaeth hon yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma. Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy
Elgan Llyr Thomas

Dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac wedi iddo raddio, mae'n gobeithio dilyn cwrs ôl-radd yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain er mwyn llwyddo fel tenor proffesiynol.

Yn ôl Elgan, sy'n hanu o Graig y Don: "Ennill yr Ysgoloriaeth hon yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma. Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy a dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gydweithio â Rhydian Roberts oedd wedi bod yn fy mentora.

"Bwriadaf ddefnyddio'r wobr ariannol ar gyfer costau addysg yn y coleg a dilyn cwrs ôl-radd."

Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, "Eto eleni, mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth wedi creu cynnwrf a chyffro heb ei ail a'r cyngerdd yn binacl gwych i'r holl weithgareddau.

"Bu i'r wyth cystadleuydd roi o'u gorau a llongyfarchiadau gwresog iawn i Elgan.

Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa yn y dyfodol."



HEFYD
Wyth yn cystadlu am ysgoloriaeth
06 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific