Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar bolisi cenedlaethol drafft y glymblaid ar ynni.
Roedd cadarnhad yn y cyhoeddiad bod Wylfa ar Ynys Môn yn dal i gael ei ystyried yn safle ar gyfer gorsaf niwclear newydd.
Roedd Wylfa ar restr o 11 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2009 gan y llywodraeth Lafur ar y pryd.
Daeth ymgynghoriad ar y rhestr yna i ben ym mis Ionawr 2010, ac fe ddaeth cadarnhad gan yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, y byddai'r Wylfa yn parhau ar y rhestr.
Y tri enw i ddiflannu oddi arno yw Dungeness yng Nghaint, a Braystones a Kirkstanton - y ddau yn sir Cumbria - oherwydd yr effaith y gallai'r tri eu cael ar safleoedd sy'n bwysig i fywyd gwyllt neu ar Barc Cenedlaethol.
Ffraeo
Y saith safle arall i gael eu cymeradwyo gan Mr Huhne yw :-
Bradwell, Essex;
Hartlepool;
Heysham, Sir Gaerhirfryn;
Hinkley Point, Gwlad yr Haf;
Oldbury, Sir De Caerloyw;
Sellafield, Cumbria;
Sizewell, Suffolk.
Dywedodd Chris Huhne: "Dwi wedi cael hen ddigon o'r ffraeo rhwng cefnogwyr ynni adnewyddol a niwclear, sy'n golygu na fyddwn ni'n cael y naill na'r llall.
"Mae angen buddsoddiad ar frys mewn ffynonellau newydd a gwahanol o ynni i'r DU.
"Bydd angen ynni adnewyddol, ynni niwclear, ynni o danwydd fossil, ynghyd â cheblau i gysylltu'r cyfan gyda'r grid cenedlaethol."
Roedd y llywodraeth glymblaid eisoes wedi dweud y byddai'r rhoi sêl bendith i gwmnïau oedd am godi gorsafoedd niwclear newydd cyn belled nad oedd angen cyfraniad o'r pwrs cyhoeddus.
Roedd hyn er gwaetha gwrthwynebiad y Democratiaid Rhyddfrydol i orsafoedd niwclear newydd pen oedden nhw yn wrthblaid.
Croeso
Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
"Mae cynnwys Wylfa ar y rhestr o safleoedd posib ar gyfer atomfa newydd yn newyddion gwych i economi Ynys Môn a Gogledd Cymru - ac i'r gweithwyr yn Wylfa.
"Mae'r cyhoeddiad yn dod ag adweithydd Wylfa B gam yn nesa ac yn dod yn dynn ar sodlau penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i barhau i gynhyrchu trydan ar safle presennol Wylfa am ddwy flynedd arall."
Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Mon, Ieuan Wyn Jones:
"Rhaid i ni nawr weithio tuag at wneud y mwyaf o'r effaith economaidd i bobl Ynys Môn. Dwi am sicrhau ein bod yn cymryd bob cyfle a ddaw i greu nid dim ond swyddi o safon yn y tymor byr, ond hyfforddiant a datblygiad swyddi pellach yn y tymor hir.
"Yn sicr mae'n newyddion da i'r ardal fod Wylfa B wedi cael sel bendith. Mae hwn yn hwb oedd ei angen i gyflogaeth ar Ynys Môn a fydd yn chwarae rol amlwg i gynorthwyo pobl drwy'r dirwasgiad."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.