British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Hydref 2010, 09:50 GMT 10:50 UK
Toriadau: Ergyd i bobl anabl

Anabledd Cymru
Mae Anabledd Cymru yn un o bump corff sy'n feirniadol o'r toriadau.

Mae sefydliadau sy'n cynrychioli'r anabl yng Nghymru yn poeni y bydd ergyd ddwbl i bobl yng Nghymru gyda chyhoeddiad toriadau'r llywodraeth.

Dywed Anabledd Cymru fod gan Gymru'r canran uchaf o bobl anabl yn y DU, a'r canran fwyaf o bobl yn hawlio budd-dal anabledd.

Mae pump o fudiadau wedi uno i wneud yr alwad sef Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Mind Cymru, Cyngor Cymru i'r Dall a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Prydain a Llywodraeth y Cynulliad i ailystyried torri budd-daliadau, ac i asesu o'r newydd yr effaith y bydd unrhyw doriadau'n cael ar bobl anabl.

'Gwthio i dlodi'

Dywedodd Prif Weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies:

"O ystyried dibyniaeth Cymru ar y sector cyhoeddus fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau cyhoeddus, mae'r toriadau arfaethedig yn drychineb i'r nifer fawr o bobl anabl yng Nghymru sy'n cael ei gorfodi i fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau a mathau eraill o gefnogaeth y wladwriaeth.

"Bydd cael gwared â'r rhwyd achub yma cyn mynd i'r afal a gwahaniaethu yn y gweithle a rhwystrau i fywyd annibynnol yn arwain at bobl anabl yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi, a dibyniaeth ar deulu."

'Peryglu annibyniaeth'

DywedPhil Stevens yw Cyfarwyddwr Cyngor Cymru i'r Dall bod nifer y bobl yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg 7% yn uwch nag unman arall yn y DU.

"Mae toriadau sy'n bygwth darparu gwasanaethau yn peryglu annibyniaeth a diogelwch pobl anabl. "

Bydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi casgliadau eu hadolygiad ar wariant cyhoeddus ddydd Mercher.

Dywed Llywodraeth y Cynulliad y byddant yn ymateb yn llawn ar ôl clywed y manylion ond maen nhw eisoes wedi dweud y byddant yn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific