British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Hydref 2010, 15:40 GMT 16:40 UK
Cannoedd yn angladd milwr o Abertawe

Y corporal Matthew Thomas
Cafodd corporal Thomas ei ladd mewn ffrydrad

Cafodd angladd milwr a laddwyd mewn ffrwydrad yn Afghanistan ei gynnal yn Abertawe.

Roedd y Corporal Matthew Thomas, 24 oed, yn aelod o gatrawd y peirianwyr mecanyddol a thrydanol.

Bu farw ar Fedi 25 ar ôl i'r cerbyd yr oedd yn teithio ynddo gael ei daro gan ffrwydrad yn nhalaith Helmand.

Roedd cannoedd yn bresennol yn yr angladd ddydd Llun yn Eglwys Santes Fair, Abertawe.

Er ei fod yn angladd milwrol roedd yn angladd preifat hefyd gyda swyddogion diogelwch ychwanegol ar wyliadwriaeth.

Roedd y Corporal Thomas yn gysylltiedig hefyd gyda'r Uned Milwyr Arbennig.

Dim siwtiau

Fe wnaeth swyddogion milwrol arbennig gario'r arch, oedd wedi ei gorchuddio gyda baner Jac yr Undeb, i'r eglwys.

Doedd dim modd adnabod yr un o'r aelodau ac fe ofynnodd teulu'r milwr am breifatrwydd.

Roedd hyd at 600 o bobl yn yr eglwys a thua 200 arall y tu allan.

Yn wahanol i sawl angladd milwr, roedd y rhan fwyaf o filwyr mewn siwtiau tywyll yn hytrach nag yn eu lifrau.

Dywedodd mam y Corporal Thomas, Beverley, mewn datganiad: "Fel rhieni, ni fyddai Robbie a finnau wedi gallu gobeithio am fab mwy perffaith.

"Roedd o'n garedig, yn feddylgar, ac o hyd â gwen ar ei wyneb.

"Roedd o'n llawn egni ac yn byw bywyd i'r eithaf.

"Rydym mewn galar enbyd oherwydd ein colled, ond rydym yn cael nerth wrth feddwl bod Matthew yn golygu cymaint i nifer fawr o bobl."

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin fod Corporal Thomas yn filwr deallus a dewr.

"Er yn ddyn ifanc, roedd yn arweinydd naturiol ac yn gosod safonau uchel."

Cafodd ei gladdu wedi'r gwasanaeth ym Mynwent Ystumllwynarth yn y Mwmbwls.



HEFYD
Afghanistan: Milwr wedi marw
07 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific