British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Hydref 2010, 07:01 GMT 08:01 UK
Diwedd cynllun morglawdd

Dim morglawdd dros Afon Hafren

Mae llefarydd Llafur ar Gymru Peter Hain yn dweud y byddai'n 'drychineb' pe na bai Llywodraeth San Steffan yn rhoi sel bendith i gynllun £30 biliwn i godi morglawdd ar draws aber Afon Hafren.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, ddydd Llun diwedd ar y cynllun i godi morglawdd o Gaerdydd i Weston-Super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Dywedodd Mr Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru, y byddai penderfyniad o'r fath "drychineb i economi Cymru a thrychineb i'r amgylchedd".

"Mae Chris Huhne yn troi ei gefn ar gynllun fyddai wedi creu cannoedd o swyddi o safon uchel, ac mae'n ymddangos ei fod wedi cefnu yn llwyr ar y syniad o ddefnyddio'r aber ar gyfer cynhyrchu trydan."

Ond dywed Cyfeillion y Ddaear Cymru y byddant yn croesawu newyddion nad oedd bwriad i godi morglawdd.

"Ry' ni wedi dadlau ers amser maith y byddai morglawdd ar draws aber Afon Hafren o Gaerdydd i Weston-Super-Mare yn rhy gostus - yn nhermau ariannol ac amgylcheddol", meddai cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gordon James:

Niwclear

Fel rhan o'r cyhoeddiad, mae Mr Huhne wedi penderfynu bwrw 'mlaen gyda chynlluniau ar gyfer wyth gorsaf niwclear newydd, gan gynnwys un ger safle'r Wylfa.

Cyhoeddodd y llywodraeth Lafur rhestr o 11 o safleoedd ym mis Ebrill 2009. Mae Mr Huhne wedi cadarnhau wyth o rheini, ond bellach wedi distyrru tri, sef Dungeness yng Nghaint, a Braystones a Kirksanton yn sir Cumbria.

Mae disgwyl i'r cyntaf o'r wyth fod ar waith erbyn 2018.

5%

Roedd Llywodraeth San Steffan wedi dweud y gallai'r cynllun i godi morglawdd rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewn Lloegr gyflenwi 5% o ynni'r pedair gwlad o fewn 14 blynedd.

Cafodd cynllun dichonolrwydd Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth San Steffan ei gyhoeddi yn 2008.



HEFYD
Cadarnhau atomfa newydd
18 Hyd 10 |  Newyddion
Ymestyn oes Wylfa tan 2012?
13 Hyd 10 |  Newyddion
Poeni am gost Morglawdd Hafren
12 Meh 08 |  Newyddion
'Na' i forglawdd Hafren
16 Ebr 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific