British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Hydref 2010, 14:20 GMT 15:20 UK
Cerddor wedi ei ddiswyddo'n deg

Murray Johnston
Roedd Murray Johnston wedi mynd 'r achos i dribiwnlys cyflogaeth

Cafodd aelod o gwmni Opera Cenedlaethol Cymru ei ddiswyddo'n deg, yn ôl tribiwnlys wedi wythnos o wrando ar dystiolaeth.

Roedd Murray Johnston wedi mynd â'r achos yn erbyn Carlo Rizzi i dribiwnlys cyflogaeth yng Nghaerdydd.

Cafodd ei ddiswyddo gan y cwmni am nad oedd ei berfformiadau ar yr obo yn ddigon da mwyach.

Roedd Mr Johnston o ardal Radyr, Caerdydd, yn honni bod Mr Rizzi wedi ei fwlio ac wedi ei drin yn annheg yn ystod ail gyfnod Mr Rizzi gyda'r gerddorfa.

Ond yn ôl y tribiwnlys roedd y cwmni opera wedi gwneud popeth er mwyn ei helpu i wella yn ei waith cyn ei ddiswyddo.

Carlo Rizzi
Bu Mr Rizzi yn arweinydd ar y cwmni am ddau gyfnod

Bu Mr Rizzi yn arweinydd ar y cwmni am ddau gyfnod, rhwng 1992 a 2001 ac yna rhwng 2004 a 2007.

Ymunodd Mr Johnston gyda'r cwmni yn 1974 a bu'n gweithio dan sawl arweinydd, yn eu plith Mr Rizzi.

Roedd e'n honni ei fod wedi cael ei ddiswyddo yn annheg yn 2008 ar ôl cael ei fwlio yn gyson gan Mr Rizzi.

Roedd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Peter Bellingham, wedi gwadu hynny yn llwyr.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific