Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru
|
Fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi eu hadolygiad ddydd Mercher
|
Dyma'r drydedd erthygl mewn cyfres sy'n edrych ymlaen at Adolygiad Gwariant y Llywodraeth ar Hydref 20. Mae'n rheol euraidd mewn gwleidyddiaeth bod llywodraethau'n cyflwyno mesurau amhoblogaidd yn gynnar yn eu tymhorau. Yr agosaf yw'r etholiad nesaf, anoddach fyth yw cyflwyno mesurau allai elyniaethu'r etholwyr. Does dim syndod felly bod y Glymblaid newydd yn San Steffan wedi dewis cyhoeddi ei chynlluniau am doriadau sylweddol yn ei gwariant o fewn misoedd i'w ffurfio. Mae hynny'n gadael sefyllfa aelodau'r ddwy blaid yn y Cynulliad mewn sefyllfa ryfeddol o anodd gan eu bod nhw'n wynebu etholwyr o fewn ychydig dros chwe mis. Ofn y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yw y gallai'r etholwyr ddefnyddio'r etholiad hwnnw fel refferendwm ar record a chynlluniau llywodraeth David Cameron a Nick Clegg. Cefnogaeth Yn ôl yr Athro Roger Scully o sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Aberystwyth mae gan y ddwy blaid resymau da i fod yn bryderus. "Ers yr Etholiad Cyffredinol dan ni wedi gweld yn y polau yng Nghymru, y brwdfrydedd dros y Democratiaid Rhyddfrydol mwy neu lai'n diflannu. "Hefyd dan ni wedi gweld y Blaid Lafur yn ailafael yn eu cefnogaeth nhw.
Fe fydd etholwyr Cymru yn pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad ym mis Mai
|
"Felly ar hyn o bryd fe ddylen ni ddisgwyl i'r Blaid Lafur wneud yn eitha da yn yr etholiad y flwyddyn nesaf - er bydd hi'n eitha anodd iddyn nhw ennill mwyafrif clir. "Ond rhaid i ni ddisgwyl i'r pleidiau sy'n ffurfio llywodraeth yn Llundain gael etholiad eitha anodd, a falle mwy o bosibiliadau i'r pleidiau sy'n llywodraethu yng Nghaerdydd - o leia byddan nhw'n edrych i gipio sawl sedd." Prif obaith y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yw y bydd yr etholwyr yn rhoi'r bai am y toriadau ar ysgwyddau Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, neu ar record economaidd Gordon Brown. Dyw hynny ddim yn debyg o ddigwydd yn ôl ymchwil academaidd. 'Rhoi'r clod' Yn ôl Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethu Cymru yng Nghaerdydd, ers datganoli mae 'na duedd gyson i etholwyr ffafrio'r Cynulliad dros San Steffan wrth bennu'r bai am newyddion drwg. "Un o'r pethau rhyfeddol dan ni'n ei ddarganfod o ran gwneud ymchwil ar agweddau pobl yng Nghymru tuag at bolisi cyhoeddus ac effaith polisïau'r llywodraeth. "Dan ni'n gweld yn systematig, pam ma 'na rwbath da yn digwydd ma pobl Cymru'n tueddu i roi'r clod i Lywodraeth Cymru, ac os oes 'na rywbeth drwg yn digwydd maen nhw'n tueddu i roi'r bai ar lywodraeth Llundain, dim ots pa lefel sydd hefo'r grym yn y maes.
 |
Mae un hen ben gwleidyddol yn y cabinet wedi deud wrtha i fod o'n credu bod angen 33 i fod yn saff o fwyafrif, wel does 'na ddim gobaith i Lafur gyrraedd 33 hefo'r system etholiadol sydd ganddo ni.
|
"Mae 'di bod fel 'na dros y blynyddoedd diwethaf ac os ydi'r glymblaid yn Llundain yn cael y bai am unrhyw beth sy'n deillio o'r toriadau, yna mae hynna'n newyddion ardderchog wrth gwrs i Lafur yn arbennig, ac i Blaid Cymru, ac yn newyddion drwg iawn iawn i'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr. "Yn wir mae'n bosib iawn y bydd y Rhyddfrydwyr yn brwydro am eu heinioes yn yr etholiad hwn. "Mae'r polau piniwn diweddaraf yn wirioneddol frawychus o safbwynt y Rhyddfrydwyr ac maen nhw'n wynebu sefyllfa anodd iawn mis Mai nesaf." Er bod arolygon barn yn awgrymu bod Llafur wedi cynyddu ei chefnogaeth yn sylweddol dros y misoedd diwethaf dyw'r blaid ddim yn gallu bod yn orhyderus ynghylch ennill mwyafrif yn y Cynulliad flwyddyn nesaf. Yn ôl Richard Wyn Jones mae cyfundrefn pleidleisio etholiadau cynulliad yn ffafrio Llafur ond ddim digon i wneud mwyafrif yn hawdd i'w ennill. "Mae'n rhaid cofio dydy hi ddim yn eglur beth ydi mwyafrif gweithredol yn y cyd-destun Cymreig...... "Mae rhai pobl yn y Blaid Lafur yn credu bod angen 31 i gael mwyafrif gweithredol. "Mae un hen ben gwleidyddol yn y cabinet wedi deud wrtha i fod o'n credu bod angen 33 i fod yn saff o fwyafrif, wel does 'na ddim gobaith i Lafur gyrraedd 33 hefo'r system etholiadol sydd ganddo ni. "Y peryg i Lafur yw bod nhw'n syrthio yn y tir neb yna rhwng rhyw 29 a 30 - fasa'n ganlyniad rhagorol iddyn nhw ond dydio ddim yn fwyafrif gweithredol." Llywodraeth leiafrifol Ond os nad yw Llafur yn sicr o ennill mwyafrif, mae'n debyg y bydd y blaid yn ennill digon o seddi i wneud clymblaid 'enfys' rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn annhebyg. Mae ffynonellau o fewn Llafur Cymru yn awgrymu na fyddai'r blaid yn ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol fel y mae hi wedi gwneud ar ddau achlysur blaenorol. Y dewis fyddai felly rhwng adnewyddu'r bartneriaeth â Phlaid Cymru neu daro bargen gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol - cam y mae'r blaid yn gweld yn wleidyddol anodd yn yr amgylchiadau presennol. Mae'n ymddangos felly y gallai cyhoeddiadau'r wythnos hon effeithio nid yn unig ar etholiad 2011 ond ar liw'r llywodraeth sy'n cael ei ffurfio ar ei hôl.
|