British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Hydref 2010, 06:17 GMT 07:17 UK
Dadl ar waed wedi ei heintio

Bag gwaed
Ymgyrchwyr yn gofyn am 'iawndal teg'

Mae'r ymgyrch i dderbyn cydnabyddiaeth ac iawndal i bobl dderbyniodd waed wedi ei heintio gan y gwasanaeth iechyd yn destun dadl yn Nhŷ'r Cyffredin.

Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith, lwyddodd i sicrhau'r ddadl seneddol.

Fe wnaeth un o drigolion ei etholaeth farw ar ôl cael ei heintio gan y gwaed diffygiol yn yr 1980au.

Bu farw Leigh Sugar, 44 oed, o Beddau, ym mis Mehefin o Hepatitis C.

Dywedodd Mr Smith fod y ddadl yma yn "hynod bwysig".

Fe wnaeth bron i 5,000 o bobl ddal HIV a hepatitis ar ôl cael eu heintio gan waed ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au.

Pobl oedd yn diodde o haemoffilia ac anhwylderau gwaed eraill oedd wedi derbyn y gwaed wedi ei heintio.

Cafodd ymchwiliad annibynnol ei gynnal yn 2007, ymchwiliad gafodd ei ariannu gan gyfraniadau preifat.

Ond mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am ymchwiliad swyddogol gan y Llywodraeth.

"Dwi'n gobeithio y bydd y llywodraeth yn ymateb," meddai Mr Smith.

"Gobeithio y byddan nhw'n gwneud be ydan ni'n ei ofyn....gwneud yn siŵr bod teuluoedd y rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn cael iawndal teg a chydnabyddiaeth."

Dywedodd Margaret Sugar, mam Leigh Sugar, ei bod eisiau "cyfiawnder".

"Ddaw dim a fy mab yn ôl, ond dwi'n dal eisiau cyfiawnder."

Cyn y ddadl ddydd Iau cafodd protest ei chynnal yn San Steffan ddydd Mercher.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific