British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Hydref 2010, 18:50 GMT 19:50 UK
Cyn-arweinydd yn gwadu bwlio cerddor

Carlo Rizzi

Mae cyn-arweinydd cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gyhuddo o fwlio cyn-aelod o'r gerddorfa.

Mae Murray Johnston wedi mynd â'r achos yn erbyn Carlo Rizzi i dribiwnlys cyflogaeth yng Nghaerdydd.

Clywodd y tribiwnlys bod 'na densiwn rhwng Mr Johnston oedd yn chwarae'r obo yn y gerddorfa â'r arweinydd ar ôl digwyddiad ddwy flynedd yn ôl.

Bu Mr Rizzi yn arweinydd ar y cwmni am ddau gyfnod, rhwng 1992 a 2001 ac yna rhwng 2004 a 2007.

Mae 'na honiadau bod Mr Rizzi, sy'n dod o'r Eidal yn wreiddiol, wedi gwylltio ar ôl i Mr Johnston ofyn iddo roi'r gorau i ganu yn ystod ymarfer.

Llythyrau

Ar ôl hynny mae Mr Johnston o ardal Radyr, Caerdydd, yn honni bod Mr Rizzi wedi ei fwlio ac wedi codi ofn ac wedi ei drin yn annheg, yn ystod ei ail gyfnod gyda'r gerddorfa.

Murray Johnston
Murray Johnston yn gadael y gwrnadawiad

Mae o hefyd yn honni bod Mr Rizzi wedi ei feirniadu yn gyson o flaen aelodau eraill y gerddorfa.

Yn ôl cyfreithiwr Mr Johnston roedd nifer o aelodau'r gerddorfa wedi sgwennu llythyrau yn cwyno am ymddygiad yr arweinydd ac mae 'na honiadau ei fod wedi gwneud un ddynes yn sâl.

Er bod Mr Johnston wedi bod yn aelod o Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru am dros 30 mlynedd bu'n rhaid iddo ymgeisio am ei swydd ei hun.

Yn ôl Ben Kerr o undeb y cerddorion, roedd ail-ymgeisio am eu rhan yn anarferol iawn.

Ymunodd Mr Johnston gyda'r cwmni yn 1974 a bu'n gweithio dan sawl arweinydd, yn eu plith Mr Rizzi.

Mae o'n honni ei fod wedi cael ei ddiswyddo yn annheg yn 2008 ar ôl cael ei fwlio yn gyson gan Mr Rizzi.

Mae rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Peter Bellingham, yn gwadu hynny yn llwyr.

Mae'r gwrandawiad yng Nghaerdydd yn parhau ond fydd Mr Rizzi ddim yn rhoi tystiolaeth.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific