British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Hydref 2010, 13:21 GMT 14:21 UK
Ymchwiliad i achos O'Brien

Michael O'Brien
Mae Michael O'Brien yn dweud i'r heddlu ffugio tystiolaeth

Bydd ditectif uwch-arolygydd o Heddlu Norfolk yn arwain dau ymchwiliad ar wahân i gwynion gan ddyn gafodd ei garcharu ar gam yn dilyn llofruddiaeth yng Nghaerdydd yn 1987.

Cafodd Michael O'Brien ei garcharu am 11 mlynedd am lofruddio Philip Saunders nes i'r ddedfryd gael ei wyrdroi.

Dywed Mr O'Brien fod yr heddlu wedi ffugio tystiolaeth yn ei erbyn yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol.

Mae yna ddau ymchwiliad i'r honiadau, un gan Heddlu'r De a'r llall gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Bydd y ddau ymchwiliad yn cael eu harwain gan y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Hobley o Heddlu Norfolk.

Tystiolaeth

Bu farw Mr Saunders pum niwrnod ar ôl i ladron ymosod arno y tu allan i'w dŷ yn ardal Treganna.

Yn 1988 cafodd Mr O'Brien, a dau ddyn arall, Darren Hall ac Ellis Sherwood, eu carcharu.

Ond yn 2000 penderfynodd y Llys Apêl nad oedd y ddedfryd yn ddilys.

Mae Heddlu'r De wedi dechrau ymchwiliad troseddol i gwynion ynglŷn â thystiolaeth gafodd ei roi yn yr achos gwreiddiol.

Dywedodd Tom Davies o Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yng Nghymru ei fod yn credu y bydd yr ymchwiliadau yn anodd i nifer o'r bobl sy'n gysylltiedig â'r achos.

Cydymdeimlo

"Mae camwedd yn siglo hyder y cyhoedd ac mae Mr O'Brien wedi gwneud cwynion difrifol iawn.

"Rwyf i ac Uwch-arolygydd o Heddlu'r De wedi cwrdd â Mr O'Brien er mwyn egluro sut y byddwn yn ymchwilio i'r honiadau.

"Rwyf hefyd wedi egluro'r angen am ddau ymchwiliad ar wahân, un gan Heddlu'r De a'r llall gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Philip Saunders
Cafodd Philip Saunders ei lofruddio yn 1987

"Mae angen atebion ac mae'n rhaid i'r cyhoedd fod yn hyderus y bydd yna ymchwiliad manwl a thrylwyr i gwynion Mr O'Brien.

Ychwanegodd Mr Davies: "Heddiw rwyf yn cymydeimlo gyda theulu a chyfeilion Mr Saunders.

"Rwyf wedi cysylltu â nhw i egluro natur yr ymchwiliad, a byddwn yn eu hysbysu o unrhyw ddatblygiadau pellach."



HEFYD
Cyn-garcharor: Ad-dalu iawndal
14 Maw 07 |  Newyddion
£300,000 i ddyn dieuog
12 Hyd 06 |  Newyddion
Lladd Caerdydd: Ymchwiliad newydd
02 Hyd 03 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific