British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Hydref 2010, 08:31 GMT 09:31 UK
Cymry'n cynllunio darnau arian

Robert Evans
Robert Evans o Fro Morgannwg gyda'i gynllun i ddangos hoci ar y darn 50c.

Mae tri o Gymry wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth i gynllunio darnau arian 50c newydd i gydfynd a'r Gemau Olympaidd yn Llundain.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Y Bathdy Brenhinol i gynllunio 29 o ddarnau arian newydd i ddylunio'r holl gampau yn y Gemau yn 2012.

Y tri ennillydd o Gymru yw Robert Evans o Fro Morgannwg, Sarah Payne o Gaerdydd a Theo Crutchley-Mack o Aberteifi.

Fel pob darn o arian yn y DU, roedd rhaid cael sel bendith y Trysorlys a'r Frehines ar gyfer y cynlluniau newydd.

Cefnogwr brwd

Gallai'r darnau newydd ymddangos ym mhocedi'r cyhoedd o'r mis yma.

Dywedodd Robert Evans iddo gystadlu am ei fod yn gefnogwr athletau brwd, er mai hoci yw'r gamp sy'n cael ei chyfleu ar ei gynllun.

"Mae gen i ddiddordeb mewn athletau erioed, ond hwn efallai yw fy ngobaith gorau i fod yn rhan o'r Gemau Olympaidd.

"Dwi'n edrych ymlaen i chwilio drwy fy newid mewn siop er mwyn gweld fy narn i o arian."

Cynllunydd teganau yw Sarah Payne, sydd hefyd wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer cerdiau Nadolig a phapur lapio. Pel-fasged sy'n ymddangos ar ei darn 50c hi.

Dywedodd: "Dyma fy nghynllun gorau hyd y hyn. Rydw i wrth fy modd yn ennill a chael bod yn rhan o Lundain 2012."

'Lwcus'

Theo Crutchley-Mack
Bachgen ysgol yw Theo Crutchley-Mack

Bachgen ysgol 16 oed yw Theo Crutchley-Mack. Gan ei fod yn feiciwr brwd, does dim syndod mai dyna'r gamp sy'n ymddangos ar ei gynllun yntau.

"Nawr fy mod wedi cael amser i arfer gyda'r syniad o weld fy nghynllun drwy'r DU, dwi'n sylweddoli pa mor lwcus ydw i wedi bod i gael y cyfle yn y lle cynta," meddai.

Dave Knight yw Cyfarwyddwr Arian Coffaol y Bathdy Brenhinol. Dywedodd:

"Bydd pob un o'r ennillwyr yn creu hanes. Fe fydd eu cynlluniau yn dod yn rhywbeth gwerthfawr i gofio un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i ddigwydd ym Mhrydain ers dros hanner canrif.

"Mae pob darn o arian yn ymgorffori ysbryd, cyffro ac angerdd y Gemau Olympaidd.

"Mae'r bathdy yn falch i fod yn rhan o Llundain 2012, ac yn falch hfeyd fod y gystadleuaeth wedi galluogi'r cyhoedd i fod yn rhan o'r peth hefyd."

Bydd y darnau arian newydd mewn cylrhediad o'r mis yma, a gall casglwyr brynu'r casgliad cyfan o 29 darn o arian ar wefan y Bathdy Brenhinol.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific