British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Hydref 2010, 06:55 GMT 07:55 UK
Trafod rhan olaf ysbyty plant

Ysbyty Plant Cymru
Dyma sut y bydd Ysbyty Plant Cymru'n edrych pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Bydd cynlluniau ar gyfer rhan olaf Ysbyty Plant Cymru, sy'n cynnwys theatrau llawdriniaeth newydd, yn cael eu trafod ddydd Mercher.

Fe fydd pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried y cynlluniau a fydd hefyd yn golygu uned ganser pobl ifanc, clinig llygaid a gardd breifat i gleifion a'u teuluoedd.

Mae ymgyrch i godi £7 miliwn tuag at y gost o brynu offer eisoes wedi dechrau.

Mae swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo'r cynlluniau, a fydd yn gweld adeilad newydd pump llawr y drws nesa i rhan gynta'r ysbyty.

Os bydd y cynlluniau'n cael sêl bendith y cyngor, bydd y gwaith yn dechrau yn Ionawr 2011, ac yn cael ei gwblhau yn 2014.

Codi arian

Apêl Arch Noa sy'n ceisio codi arian i brynu offer, gan gynnwys sganiwr MRI i'r uned gofal dwys.

Cadeirydd yr apêl yw Lyn Jones, ac mae hi wrth ei bodd gyda'r ymdrechion hyd yma.

"Rydym yn cael cefnogaeth ardderchog gan y cyhoedd," meddai, "ac rydym yn diolch o galon iddyn nhw tra'n gobeithio y bydd y gefnogaeth yn parhau."

Yn rhan gynta'r ysbyty, mae dwy ward feddygol gyda 25 gwely yr un, ac un ward cansyr gyda 16 gwely.

Fe gostiodd £9 miliwn, gyda hanner yr arian yn cel ei godi gan Apêl Arch Noa, a'r hanner arall gan Lywodraeth Y Cynulliad.

Bydd y cynllun cyfan yn werth £54.3 miliwn, gyda Llywodraeth Y Cynulliad yn talu, ond y costau cynnal a chadw yn dod gan y byrddau iechyd lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific