Does dim disgwyl dirwasgiad arall, yn ôl yr ymchwil
|
Mae mwy na 50,000 o swyddi yn y fantol yng Nghymru oherwydd toriadau i'r sector cyhoeddus, medd adroddiad. Bydd effaith sylweddol ar swyddi yn y sector preifat hefyd oherwydd toriadau i'r sector cyhoeddus, medd adroddiad Price Waterhouse Coopers. Ond does dim disgwyl dirwasgiad arall, yn ôl yr ymchwil. Bydd cyfanswm o 52,000 o swyddi yn mynd i gael eu colli yng Nghymru erbyn 2015 yn ôl amcangyfrif yr adroddiad, sef 4.3% o gyfanswm y swyddi yng Nghymru. Dim ond Gogledd Iwerddon fydd yn cael eu heffeithio yn fwy, gyda 5.2% o'r gweithlu yno yn debygol o golli eu swyddi. £46 biliwn Gallai allbwn y sector preifat yn y DU fod yn £46 biliwn y flwyddyn yn llai erbyn 2014/15 yn ôl yr adroddiad oherwydd yr effaith ar gyflenwyr i'r sector cyhoeddus. Dywedodd Rob Lewis, cadeirydd Price Waterhouse Coopers yng Nghymru a'r Gorllewin: "Tra bod yr adroddiad yn pwysleisio'r angen i'r sector preifat yng Nghymru i ddod o hyd i gyfleoedd newydd i dyfu, mae hefyd yn gwrthbrofi'r farn y bydd contractau i wasanaethu'r sector cyhoeddus yn diflannu". Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i wneud toriadau o £82 biliwn mewn gwariant cyhoeddus - mae'n golygu penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol y ganolfan hyfforddi milwrol yn Saint Athan, cyllideb S4C a thrydaneiddio'r lein reilffordd rhwng Llundain ag Abertawe ymhlith eraill. Fe fydd Llywodraeth glymblaid San Steffan yn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg o wariant ar Hydref 20.
|