Aled ap Dafydd
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Cyhoeddir canlyniadau'r arolwg o wariant ar Hydref 20.
|
Dyma'r erthygl gyntaf mewn cyfres gan ohebwyr BBC Cymru yr wythnos hon yn bwrw golwg ar yr her sy'n wynebu Llywodraeth San Steffan wrth wneud toriadau o £82 biliwn. Nid chwarae plant ydi cwblhau'r adolygiad gwariant - tydi rhoi siâp ar gyllid y wlad drwy dorri'r ddyled a gwarchod ein hysgolion ag ysbytai ddim yn hafaliad hawdd. Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i wneud toriadau o £82 biliwn mewn gwariant cyhoeddus - mae'n golygu penderfyniadau anodd ynglŷn â dyfodol y ganolfan hyfforddi milwrol yn Saint Athan, cyllideb S4C a thrydaneiddio'r lein reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe. Cafodd y cynllun hwnnw ei gyhoeddi gan y llywodraeth Lafur ddiwethaf ar gost o dros biliwn o bunnau. Dim trenau? Fe allai gael ei hepgor yn llwyr yn ôl Yr Athro Stuart Cole o ganolfan ymchwil Trafnidiaeth Cymru: "Mae trydaneiddio'r lein yn digwydd mewn dau gymal. Yn gyntaf gosod y gwifrau a gwneud y gwaith peirianyddol angenrheidiol. "Mae'r gwaith cynllunio ar hynny wedi ei gwblhau ond does dim arian go iawn wedi ei wario eto, fydd hynny ddim yn digwydd tan 2014. "Yr ail gymal yw prynu'r trenau a tydi Llywodraeth San Steffan ddim wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â hynny eto. "Felly fe allem ni fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni lein ond dim trenau......Pe bai hynny'n digwydd byddai economi De Cymru yn dioddef wrth i ddinasoedd fel Caerdydd ag Abertawe gystadlu gyda Sheffield a Leeds sydd yn debygol o elwa o'r gwasanaeth trenau cyflym. Fe fydden nhw yn llefydd mwy apelgar i fuddsoddwyr." Cymru?
 |
Mae dyled y wlad yn un triliwn o bunnau felly mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Mae'n rhaid i ni gael gwared ar y freebies
|
Mae'r adolygiad gwariant yn gwneud hi'n glir faint o arian fydd gan Lywodraeth Cymru. Wrth i wariant mewn meysydd datganoledig ddisgyn yn Lloegr bydd hynny yn cael ei adlewyrchu yn faint o arian ddaw i Fae Caerdydd. Mae Fformiwla Barnett yn rhoi £15.7 biliwn i Gymru eleni ond mae'n seiliedig ar boblogaeth yn hytrach nag anghenion ein gwlad. Yn ôl adroddiad yr economegydd Gerry Holtham yn gynharach eleni mae hynny yn annheg. £300 neu £400 biliwn yn fwy Dri mis ers cyflwyno ei gasgliadau tydi Gerry Holtham ddim yn meddwl fod y ddadl dros newid y fformiwla wedi symud ymlaen. "Pe bai Cymru yn rhanbarth o Loegr fydden ni'n derbyn £300 neu £400 biliwn yn fwy," meddai. "Ond yn anffodus does dim lot o siawns y bydd y fformiwla yn cael ei newid oherwydd mae'r Llywodraeth yn Llundain yn ofni'r sefyllfa yn Yr Alban. "Mae'r Alban yn derbyn llawer mwy o arian o dan y fformiwla bresennol na'r fformiwla newydd" (fformiwla comisiwn Holtham). Bydd gwneud mwy neu hyd yn oed yr un faint gyda llai o arian yn her i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones - dyn sydd yn gyfarwydd â thorri'r rhuban ar gynlluniau newydd, ond sydd bellach yn gorfod ystyried pa brosiectau arfaethedig dylid rhoi i'r naill ochr. Radical Mae rhai yn galw am newid radical i wariant llywodraeth Cymru. Dywedodd un o ymgynghorwyr economaidd y Ceidwadwyr, Dylan Jones Evans: " 'Da ni wedi gweld giveaway mawr gan y Llywodraeth (Cymru) dros y pedair blynedd diwethaf." "Maen nhw wedi rhoi pethau allan am ddim i bobl, fel teithio am ddim, nofio am ddim ac yn y blaen. "Os da ni mewn economi sydd yn tyfu ac mae digon o arian ar gael yna mae'n ddigon teg i lywodraeth wneud hynny. "Ond mae dyled y wlad yn un triliwn o bunnau felly mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Mae'n rhaid i ni gael gwared ar y freebies." Mae gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi bod yn cynllunio'n ariannol ar sail toriadau i'w cyllidebau. Gydag etholiadau'r cynulliad ar y gorwel tydi'r amseru ddim yn dda ond fe allwn ni ddisgwyl clywed y geiriau 'nid ein toriadau ni ond rhai Llywodraeth San Steffan' yn dod o enau Carwyn Jones droeon dros y misoedd nesaf.
|