Argraff arlunydd o "bolyn totem" Stanley
|
Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno ar gyfer ail gerflun fel cofeb i'r anturiaethwr dadleuol, H M Stanley. Mae cerflun arall eisoes wedi ei gomisiynu yn Ninbych er gwaethaf deiseb yn gwrthwynebu. Yn ôl rhai, roedd Stanley yn euog o gynorthwyo caethwasiaeth yn Affrica. 'Polyn totem' Nawr mae tad a mab o Gernyw wedi datgelu cynlluniau i godi cerflun fel 'polyn totem' yn Llanelwy. Dywedon nhw y bydden nhw'n ystyried unrhyw feirniadaeth flaenorol, a bod y cerflun diweddaraf yn canolbwyntio mwy ar y cyfnod y bu Stanley yn byw ynddo. Bydd y gwaith 4 metr (13 troedfedd) o uchder gan Gary a Thomas Thrussell yn cael ei godi yn nhref enedigol Stanley. Mae'r artistiaid yn holi trigolion a phlant lleol am syniadau ar sut i lunio'r cerflun. Cafodd cerflun efydd £31,000 ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Ddinbych ym mis Medi, er bod llythyr wedi ei arwyddo gan 50 o bobl blaenllaw yn honni fod yr anturiaethwr yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth. Yn hytrach, mae gwrthwynebwyr yn galw am arddangosfa barhaol er mwyn rhoi'r hanes mewn cyd-destun "llawnach". 'Dathlu darlun cyffredinol o'r cyfnod' Dywedodd Gary Thrussell y byddan nhw yn edrych ar y dadleuon yn erbyn, a'u bod yn "ceisio dathlu darlun cyffredinol o'r cyfnod, ac o Affrica hefyd.
Yn ôl rhai, roedd Stanley yn euog o gynorthwyo caethwasiaeth yn Affrica
|
"Mae hyn yn fwy am y cyfnod y bu Stanley yn byw ynddo, ac yn dangos bywyd yn fwy cyffredinol." Ddydd Mawrth cafodd plant ysgol lleol gyfle i gynnig syniadau i'w cynnwys ar y cerflun dur. Ar dop y polyn, bydd delw Congolaidd wedi ei wneud o gopr. Yn ôl Mr Thrussell, "y nod yw cael syniadau ar gynnwys y cerflun a beth fydden nhw'n hoffi ei weld ynddo. "'Da ni eisiau creu cofnod amser o fywyd Stanley. "Mae hi'n golofn 4 metr gyda neidr yn troi o'i chwmpas o'r gwaelod i'r top. "Rhwng y neidr mae 'na gerfwedd o fywyd Stanley, yn dechrau yn Llanelwy lle'r oedd o'n blentyn yn y wyrcws. "Mae fel polyn totem ar gyfer Llanelwy." Cafodd John Rowlands ei eni yn 1841 ac yn fachgen ifanc cafodd ei anfon i'r wyrcws cyn ymfudo i America lle newidiodd ei enw i H M Stanley. Bu'n ymladd yn rhyfel cartre' America ac yna yn newyddiadurwr cyn mynd yn anturiaethwr. Caiff Stanley ei gofio am ganfod yr anturiaethwr coll David Livingstone yn nwyrain Affrica yn 1871.
|